S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

6 Hydref 2023

Bydd S4C a sianel deledu FR3 yn cydweithio ar ddarllediadau o gig Clwb Ifor Bach yn Nantes nos Sadwrn.

Mae'r gig yn nodi dathliad Clwb Ifor Bach yn 40 oed, ac fe fydd yn cael ei gynnal ar ôl y gêm rhwng Cymru a Georgia yng Nghwpan Rygbi'r Byd yn Stade de la Beaujoire yn y ddinas.

Bydd y gig yn digwydd yn adeilad Stereolux, ac yn cymryd rhan o Gymru bydd Adwaith, Local a'r rapwyr Sage Todz a Luke RV.

Hefyd yn perfformio bydd y band lleol Ile de Garde ac y band Llydewig Ebel Elektrik wnaeth chwarae yn Tafwyl eleni.

Bydd FR3 yn ffrydio y gig yn fyw tra bydd rhaglen yn cynnwys uchafbwyntiau'r noson yn cael ei darlledu gan S4C yn hwyrach yn y mis ac yn cael ei chyflwyno gan Lloyd Lewis.

Dyma'r tro cyntaf i gwmni teledu o Gymru a chwmni teledu Ffrengig weithio ar y cyd ar raglen gerddorol ac mae'n rhannol bosib oherwydd cefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Dinas Caerdydd.

Medd Gwenllian Anthony o'r band Adwaith:

"Dyw Adwaith heb chwarae yn Llydaw nac yn Ffrainc o'r blaen felly mae hyn yn gyfle arbennig i ni.

"Ni wedi chwarae mewn nifer o wledydd eraill yn Ewrop, mae'r cynulleidfaoedd wastad yn groesawgar ac yn mwynhau canu Cymraeg – dyw clywed canu mewn iaith arall yn ddim byd gwahanol iddyn nhw."

Bydd modd gwylio'r gig yn fyw drwy ymweld â https://www.france.tv/france-3 neu France 3 Bretagne - YouTube . Medd Mael Le Guennec, pennaeth rhaglenni yn yr iaith Lydaweg ar FR3:

"Mae'r bartneriaeth hon yn bwysig i ni oherwydd rwy'n teimlo y gallwn gydweithio'n well â chenedl Geltaidd. Mae ein ffiniau diwylliannol yn hen ac yn ddwfn. Fel darlledwr iaith leiafrifol credaf ein bod yn gryfach gyda'n gilydd ac y gallwn ddod â rhaglenni o safon i gynulleidfa eang.

Mae'r gig yn Naoned (Nantes) yn enghraifft dda o sut mae ein diwylliannau yn fywiog ac yn fodern, yn gymysgedd dda o gerddoriaeth roc, chwaraeon a hwyl."

Bydd y rhaglen uchafbwyntiau ar S4C hefyd yn dangos deuawd arbennig gyda'r cerddor o Rhiwlas, Lleuwen Steffan sydd bellach wedi ei lleoli yn Llydaw.

Bydd Lleuwen yn canu gyda'r cerddor Llydewig Brieg Guerveno. Medd Lleuwen:

"Mae hi'n fendigedig medru canu a chlywed Llydaweg ar deledu yng Nghymru. Da'n ni mor ffodus yng Nghymru o fedru clywed a mwynhau'r iaith Gymraeg yn ddiwylliannol, mae hi dipyn mwy gwahanol yn Llydaw.

Byddaf yn canu cân o'r enw Aderyn Lapous – cân yn Gymraeg a'r Lydaweg a'r tebygrwydd rhwng y ddwy iaith yn amlwg drwy'r geiriau."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?