S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

18 Hydref 2023

Bydd S4C yn darlledu holl gemau Cymru yn nhwrnamaint rygbi WXV yn fyw o Seland Newydd.

WXV yw cystadleuaeth ryngwladol 15 newydd rygbi merched y byd gafodd ei lansio ym mis Hydref 2023.

Ar ôl gorffen yn y trydydd safle ym Mhencampwriaeth Chwe Gwlad Menywod Tik Tok eleni, Cymru fydd un o'r chwe thîm yn yr haen uchaf, WXV1.

Canada fydd gwrthwynebwyr cyntaf Cymru ar 21 Hydref yn Stadiwm Sky, Wellington, cyn iddyn nhw deithio i Stadiwm Forsyth Barr yn Dunedin i wynebu'r tîm cartref, Seland Newydd ar 28 Hydref.

Yna bydd Cymru'n wynebu Awstralia yn Stadiwm Go Media, Auckland, ar 3 Tachwedd.

Bydd pob gêm yng Nghymru yn cael eu darlledu'n fyw ar sianeli S4C Clic a Facebook a YouTube S4C.

Bydd S4C hefyd yn ailchwarae'r gemau yn eu cyfanrwydd yn ddiweddarach ar ddyddiau'r gêm gan bod y gemau yn dechrau yn ystod oriau mân y bore.

Wrth drafod y gystadleuaeth a chyfleoedd Cymru, medd Catrin Heledd fydd yn cyflwyno:

"Mae'r buddsoddiad sydd wedi cael ei wneud yn y gystadleuaeth yn dangos faint o dwf sydd yna yn rygbi merched ar draws y byd.

"Mae'r gystadleuaeth newydd yn rhoi mwy o bwrpas i dimoedd i allu chwarae'n well a dod â mwy o elfen gystadleuol i'r gamp.

"O ran cyfleoedd Cymru yn y gystadleuaeth eleni, mae'n mynd i fod yn anodd rhannu'r grŵp gydag Awstralia, Canada a Seland Newydd - tair gwlad sydd o fewn y pump gorau yn y byd, ond mae Cymru yn rhif 6 yn y byd, eu uchaf erioed, ac maen nhw eisiau chwarae'r gorau sydd yna.

"Mae yna ffyrdd eraill o fesur llwyddiant... Dwi'n meddwl y bydd yr hyfforddwr Ioan Cunningham yn edrych i weld gwelliannau yn yr elfen gystadleuol, perfformiadau 80 munud, cyflwyno capiau newydd a chystadlu am safleoedd a hefyd cadw y sgôr yn dynn."

Dywedodd Prif Weithredwr dros dro Undeb Rygbi Cymru, Nigel Walker:

"Mae ymrwymiad parhaus S4C i rygbi Cymru dros Gwpan y Byd y dynion yn Ffrainc a dilyn Menywod Cymru i Seland Newydd ar gyfer WXV yn cael ei werthfawrogi'n fawr.

"Mae angen i bawb cael cyfle i weld y merched yn chwarae er mwyn gallu ysbrydoli pawb i gymryd rhan mewn rygbi ar bob lefel, ac rydym yn hynod ddiolchgar i S4C am y yr holl sylw y maent yn parhau i'w roi i'n sêr rhyngwladol yn ogystal â'u buddsoddiad uniongyrchol i'n gêm."

Ategodd Graham Davies, Pennaeth Comisiynu Chwaraeon S4C:

"Rydym yn falch iawn o fod yn darlledu holl gemau Cymru yn y gystadleuaeth WXV newydd.

"Rydym yn falch o'n hymrwymiad parhaus i chwaraeon Merched ar S4C; mae rygbi merched yn tyfu mewn poblogrwydd, ac ein cyfrifoldeb ni yw rhoi'r llwyfan gorau posibl i'r gamp a'r chwaraewyr a'r amlygiad y maent yn ei haeddu.

"Rydym yn falch o chwarae rôl yn natblygiad y gêm, ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr, a sicrhau bod ein cynnwys yn adlewyrchu ein cynulleidfaoedd eang."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?