S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

10 Tachwedd 2023

Mae cystadleuaeth gyfansoddi Cân i Gymru 2024 – un o hoelion wyth calendr cerddorol Cymru – wedi agor i geisiadau.

Mi fydd y gystadleuaeth yn dychwelyd flwyddyn nesa gyda gwledd o elfennau newydd.

Am y tro cyntaf, caiff y sioe fyw ei chynnal ar lwyfan enfawr Arena Abertawe, a hynny ar nos Wener 1af o Fawrth 2024; Dydd Gwyl Dewi.

Y cerddor Osian Huw Williams, prif ganwr y Candelas a chyn gyd-enillydd y wobr fydd yn cadeirio'r rheithgor, yn mentora'r cystadleuwyr ac yn cyflwyno tlws newydd sbon Cân i Gymru i'r enillydd.

Mi fydd cyfansoddwr y gân fuddugol hefyd yn bachu £5,000 a chytundeb perfformio, gydag enillydd yr ail wobr yn ennill £3,000 ac enillydd y drydedd wobr yn hawlio £2,000.

Dyma'r ail a'r drydedd wobr fwyaf yn hanes y gystadleuaeth.

Bydd cyfle i wylio'r noson fawr yn fyw ar S4C gyda Trystan Ellis-Morris ac Elin Fflur yn dychwelyd i gyflwyno'r noson.

Mae pob disgwyl i wylwyr ledled y wlad a thu hwnt gynnal partïon gwylio Cân i Gymru, a bydd y rhaglen yn annog i'r partïon fod yn rhan o'r digwyddiad byw.

Bydd cyfle i bobol ymuno a'r cyffro yn fyw yn Arena Abertawe, a bydd tocynnau ar gael i'w archebu yn fuan iawn.

Mae'r gystadleuaeth bellach ar agor ac yn croesawu ceisiadau ar gyfer y teitl mawreddog Cân i Gymru 2024.

Y dyddiad cau i wneud cais yw dydd Gwener 5ed o Ionawr.

Caiff y cystadleuwyr fydd yn perfformio yn y sioe fyw eu cyhoeddi ar ddydd Llun 12fed o Chwefror, gyda'r sioe yn dilyn ar y 1af o Fawrth.

Meddai Osian Huw Williams:

"Dwi'n hynod gyffrous o fod yn cadeirio'r rheithgor beirniadu achos mi fydda i'n cael deud pwy dwi eisiau gweithio efo, ond hefyd dwi wedi bod yn rhan o'r gystadleuaeth fy hun o'r blaen ac mae o wastad yn ddifyr, wastad yn hwyl, felly mae cael bod yn fwy o rhan ohono fo yn hynod gyffrous.

"Mae'r elfen gyfansoddi yn bwysig iawn achos mae o'n rhoi platfform cenedlaethol i rywun, yn enwedig pobl ifanc sy'n dechrau allan, fatha pan wnaethon ni guro nol yn 2013 mae'n cael dy enw di allan yno.

"Cerwch amdani – does 'na ddim byd yn stopio chi boed o'n chi ben eich hunan yn llofft efo 'chydig o ganeuon neu efo un gân, neu bod chi efo band, does 'na ddim byd i stopio chi a 'da'ch chi ddim yn gwybod be' neith ddigwydd."

Er mwyn cystadlu, ewch draw i wefan S4C am ragor o wybodaeth, telerau ac amodau a ffurflen ymgeisio: www.s4c.cymru/canigymru

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?