Mi fydd pennod arbennig o gyfres coginio newydd Colleen Ramsey: Bywyd a Bwyd ymysg y wledd o raglenni sy'n ffurfio arlwy Nadolig S4C eleni.
Mae Colleen yn awdur coginio a chyflwynydd, ac yn briod â chapten tîm pêl-droed Cymru, Aaron Ramsey. Mae gan y pâr dri o blant.
Wrth gyhoeddi y bennod arbennig, dywedodd Colleen, "I fi, does dim byd yn well dros y Nadolig na'r teulu i gyd yn dod draw a mwynhau bwyd arbennig yr Ŵyl rownd y bwrdd.
"Rwy'n edrych 'mlaen at ddathlu gyda Aaron a'r teulu adre eleni, ac yn gyffrous am roi croeso i gynulleidfa S4C i'r gegin i weld hoff ryseitiau Nadoligaidd fel parseli feta a mêl, treiffl tiramisu ac wrth gwrs mins peis. Dewch draw ar yr 20fed o Ragfyr - welai chi 'na!"
Hefyd ar frig yr amserlen mae Carol yr Ŵyl 2023, lle fydd Mared Williams ac Elidyr Glyn yn cyfweld â chyfansoddwyr y 10 carol wreiddiol sy'n cystadlu i ennill y teitl eleni, a chlywed y corau ysgolion cynradd fydd yn eu perfformio.
Yn codi'r galon fydd O'r Diwedd; rhaglen llawn sgetsys crafog, doniol a dychanol, gyda chymeriadau cryf, digri ac adloniannol wedi'i ysgrifennu gan Tudur Owen, Sian Harries a Gareth Gwynn.
A daw'r gyfres ddrama swreal newydd Pren ar y Bryn i ddiwedd ar noswyl Nadolig, gyda phennod olaf, ddramatig.
Ar Noson Nadolig, mi fydd cyfle i weld Wil ac Aeron yn gwireddu breuddwyd eu plentyndod i ddod yn gowbois ar un o ranches mwyaf yr Unol Daleithiau, yn Wil ac Aeron: Cowbois Tecsas.
A bydd rhai o enwogion Cymru, yn cynnwys yr actorion Richard Harrington, Rebecca Trehearn a Richard Elis a'r athletwraig Non Evans, yn galw yn y Gwesty Aduniad am y Nadolig.
Mi fydd dwy bennod arbennig o Noson Lawen dros yr Ŵyl; un yn dilyn hanes 'Dolig Rownd a Rownd a'r llal yn cofio'r cerddor Alun 'Sbardun' Huws.
Mi fydd y gyfres reality Priodas Pum Mil yn dychwelyd gyda phennod arbennig i ddathlu'r Ŵyl, ac mewn pennod Nadoligaidd o'r gyfres lwyddiannus Gogglebocs Nadolig, cawn gyfle i wylio enwogion yn ogystal â'r teuluoedd cyfarwydd yn rhoi'r byd yn ei le ar eu soffas.
Am chwa o awyr iach ar ddydd Calan, mi fydd John Hartson, Glyn Wise, Mared Williams a Lisa Angharad yn camu i'w hesgidiau cerdded ar gyfer pennod arbennig o Am Dro.
Ac ar ben hynny oll, mi fydd penodau Nadolig o ffefrynnau S4C, yn cynnwys Pobol y Cwm, Y Fets, Cefn Gwlad, Deian a Loli a llawer mwy.
Noddir arlwy Nadolig S4C gan Cig Eidion Cymru
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?