S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

4 Rhagfyr 2023

Mae ffilmio wedi dechrau ar Cleddau/The One That Got Away; cyfres ddrama newydd, chwe rhan, sy'n cyfuno dirgelwch llofruddiaeth afaelgar â stori garu drydanol.

Mae'r gyfres gan BlackLight Television (cwmni Banijay UK) mewn cydweithrediad â Banijay Rights, yn cael ei ffilmio yn Gymraeg ar gyfer S4C i'w darlledu ddiwedd 2024, tra bydd fersiwn Saesneg hefyd yn cael ei chynhyrchu ar gyfer cynulleidfaoedd rhyngwladol. Bydd y ddau yn cael eu dosbarthu'n fyd-eang gan Banijay Rights, cangen ddosbarthu'r pwerdy cyfryngau a chynnwys Banijay .

Wedi'i lleoli yn nhref arfordirol gorllewin Cymru, Doc Penfro, mae Cleddau/The One That Got Away yn dod â thîm o dalent drama droseddu Cymreig eithriadol at ei gilydd.

Ysgrifennwyd y gyfres gan Catherine Tregenna (The Bench, Law & Order UK, Lewis a DCI Banks) ac mae'n serennu Elen Rhys (The Mallorca Files, Craith/Hidden), Richard Harrington (Y Gwyll/Hinterland) a Rhian Blythe (Y Golau/The Light in the Hall, Craith/Hidden).

Cyfarwyddir pob un o'r chwe phennod gan Sion Ifan (Y Gyfrinach/The Secret), a anwyd yn Sir Gâr.

Mae llofruddiaeth ysgytwol nyrs yn agor hen glwyfau mewn cymuned tref fach, gan daflu euogfarn hanesyddol i amheuaeth, codi'r posibilrwydd arswydus o lofrudd copycat ac aduno dau gyn-gariad sydd â'r dasg o ddod o hyd i'r llofrudd.

Gyda throeon di-ri yn arwain at ddiweddglo syfrdanol, mae Cleddau/The One That Got Away yn archwiliad fforensig o dref, llofrudd a pherthynas, ddoe a heddiw.

Dywedodd Catherine Treganna: "Dwi mor gyffrous i greu ac ysgrifennu fy nghyfres fy hun a'i rhannu gyda chynulleidfaoedd S4C gan mai dyna lle dechreuodd fy ngyrfa deledu. Mae'n fraint cael ysgrifennu yn y llais a'r acenion sy'n rhan o fy mhlentyndod a dod â'r hyn dwi wedi'i ddysgu dros 25 mlynedd o ysgrifennu thrillers trosedd ar waith."

Dywedodd Comisiynydd Drama S4C, Gwenllian Gravelle: "Rydym yn falch iawn o gael gweithio ochr yn ochr â Banijay a Blacklight TV ar gyfres mor iasol. Ni allwn aros i'n gwylwyr wylio'r gyfres drosedd dynn, afaelgar hon nad yw byth yn colli momentwm. Gyda chast Cymreig serol a lleoliad gwych, mae'n mynd i fod yn gyfres arbennig."

Dywedodd Phil Trethowan a Ben Bickerton, Cynhyrchwyr Gweithredol BlackLight Television: "Rydym wrth ein bodd i fod yn gwneud Cleddau/The One That Got Away gydag S4C, Banijay Rights a Cymru Greadigol. Mae'n ffilm gyffro afaelgar a fydd yn cadw'r gynulleidfa i ddyfalu tan y diwedd, wedi'i chyflwyno gan dalent ysgrifennu, cyfarwyddo ac actio gorau Cymru."

Meddai Simon Cox, EVP Cynnwys a Chaffaeliadau, Banijay Rights: "Yng nghanol arfordir prydferth gorllewin Cymru, mae stori drosedd grefftus wych Catherine Tregenna yn ychwanegiad gwych i gatalog Hawliau Banijay - gan nodi ein cyrch i'r genre noir Cymreig cynyddol. Rydym yn gyffrous am fod yn bartner gyda BlackLight ac S4C ar fersiynau dwyieithog Cleddau ac am fynd â'r ddrama afaelgar hon i gynulleidfaoedd ledled y byd."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?