06 Rhagfyr 2023
Mewn cyfres newydd ar S4C mae Prif Gwnstabl Heddlu Dyfed Powys yn trafod ei uchelgais i waredu trais domestig yn llwyr o'r ardal.
Yn ôl Dr Richard Lewis gallai hyn gymryd cenhedlaeth i'w wireddu ond dywed ei fod yn brosiect sy'n werth ei ddechrau nawr.
Dros y ddeunaw mis ddiwethaf, mae cyfres Y Prif wedi cael mynediad arbennig i ddilyn y Prif Gwnstabl wrth ei waith, gyda'r gyfres dair rhan yn dechrau ar S4C ar 5 Rhagfyr.
Wrth gael ei benodi i'r swydd nôl yn 2021, ei her oedd trawsnewid perfformiad y llu sy'n gyfrifol am blismona dwy ran o dair o Gymru.
Ers hynny, mae o wedi dod i'r amlwg fel ffigwr dadleuol sy'n barod i herio'r drefn wrth ymgymryd â'r sialens.
Mae'r Prif Gwnstabl 48 oed wedi dod yn adnabyddus am osod targedau uchelgeisiol o fewn ei lu – yn eu mysg, y nôd o waredu trais domestig yn llwyr o ardal Dyfed Powys.
Mae'n cyfaddef iddo wynebu amheuaeth a beirniadaeth o fewn ei lu ei hun ynglŷn â'r uchelgais heriol hwnnw:
"Mae pobl yn dweud wrtha i fod e'n dasg amhosib i gael gwared ar gam-drin domestig yn llwyr" medd Richard.
"Pam wyt ti'n dweud hynny'? maen nhw'n gofyn. 'Chi'n gwneud fy ngwaith i'n amhosib.' Dy'n nhw ddim yn meddwl bod e'n realistig, dy'n ni byth yn mynd i lwyddo i gyflawni e, mai pie in the sky yw e."
Ond mae'n cydnabod bod yr ymdrech o gyflawni'r nôd am gymryd amser:
"Efallai bydd yn cymryd cenhedlaeth. Mae'n brosiect fydd yn cymryd blynyddoedd, ac mae'n brosiect sy'n werth dechrau nawr. A ni yw'r llu cyntaf i ddweud yn gyhoeddus mai dyma yw ein nod."
Yn ystod ei gyfnod yn arwain, mae'r Prif Gwnstabl wedi hawlio'r penawdau fwy nag unwaith am ei farn ddadleuol.
Ym mis Chwefror, bu'n gyfrifol am sbarduno ymateb chwyrn ar wefan gymdeithasol Twitter wedi iddo drydar ei bod hi'n bryd gwahardd Delilah rhag cael ei chanu mewn gemau rygbi rhyngwladol yn Stadiwm Principality, oherwydd ei hanfodion misogynistaidd.
Gwelwyd y neges gan 3.5 miliwn o bobl, gan sbarduno dros 10,000 o ymatebion.
"Dwi'n deall nad yw pawb yn mynd i gytuno, ond roedd rhai o'r ymatebion hynny dros ben llestri mewn gwirionedd," mae'n honni.
Er gwaethaf y negeseuon negyddol a dderbyniodd ar-lein - cael ei frandio'n "warth" gan rai - mae'n gadarn nad yw'n difaru postio'r neges honno.
"Mae'n hawdd iawn mewn swydd fel fy swydd i guddio i ffwrdd mewn swyddfa, i beidio â siarad â neb, i ddweud dim byd," meddai.
"Dwi mewn sefyllfa lle dwi'n gallu tynnu sylw at bwnc pwysig – trais yn y cartref. Os yw un person yn gweld y trydariad hwnnw yn cefnogi dioddefwyr cam-drin domestig, ac os yw un person o ganlyniad yn galw'r heddlu, yna mae'n werth chweil cael 10,000 pobl yn gweiddi yn fy wyneb."
Ym mhennod gyntaf y gyfres dair rhan, mae Dr Richard Lewis ar batrol i asesu'r heriau sy'n wynebu Heddlu Dyfed Powys cyn dechrau'r gwaith o drawsnewid y llu.
Yn yr ail bennod, cawn ddilyn ymdrechion y Prif Gwnstabl i daclo'r broblem gyffuriau, ac yn y bennod olaf mae'n dod wyneb yn wyneb â phroblemau plismona trais domestig.