S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

19 Rhagfyr 2023

"A bod yn onest, wy'n danto wrth feddwl am ddechrau edrych nôl ar fywyd gyfan! Mae wedi bod yn amrywiol â dweud y lleia'!"

Felly dywed yr actores eiconig o Gymru, y Fonesig Siân Phillips, yn Siân Phillips yn 90, ffilm ddogfen newydd, llawn enwogion a gaiff ei darlledu ar S4C nos Wener 29 Rhagfyr i nodi penblwydd Siân yn 90 oed eleni.

O ffilmiau Hollywood i theatr, teledu a radio, mae Siân Phillips wedi gwneud y cyfan. Mae seren I, Claudius a chyn-wraig Peter O'Toole yn siarad yn agored am y tro cyntaf am ei bywyd a'i gyrfa hyd yn hyn.

Yn y ffilm arbennig hon, mae llu o sêr teledu a ffilm yn talu teyrnged iddi, gan gynnwys Syr Derek Jacobi, Matthew Rhys, y Fonesig Penelope Wilton, y Fonesig Eileen Atkins, Rakie Ayola, Nigel Havers a Daniel Evans.

Bydd y daith yn mynd â ni o Lundain yn ôl i fro ei phlentyndod wrth droed y Mynydd Du yng Ngorllewin Cymru. Yn y ffilm mae Siân yn cofio'n glir ymweliad â'r theatr a newidiodd ei bywyd yn chwech oed.

Meddai; "O'n i'n meddwl, 'Wel, dyma be wy ise neud, dyna le wy ise byw, lan fanna le ma'r goleuade. O'n i'n meddwl mod i yn y nefoedd. A phan es i adre, o'n i wedi sgwennu yn y dyddiadur 'I am now resolved to being an actress'."

O'r dyddiau cynnar hynny aeth Siân ymlaen i gael gyrfa ddisglair, ryngwladol sydd wedi ymestyn dros naw degawd. Mae ei rolau mwyaf eiconig yn cynnwys rhannau yn I, Claudius, How Green Was My Valley, Dune a Goodbye Mr Chips. Ond er y llwyddiannau, mae ei bywyd wedi bod yn heriol ar brydiau.

Yn Siân Phillips yn 90, mae Siân yn agor ei chalon am ei phriodas gythryblus â Peter O'Toole, a barodd am ugain mlynedd. "Roedd cariad cryf rhyngom ni ond o'dd e'n greulon iawn," meddai.

Mewn moment bwerus, mae Siân yn datgelu sut y collodd yr hyn y mae'n ei ddisgrifio fel y cyfnod aur ym mywyd actor rhwng 28 a 40 oed; blynyddoedd mae hi'n credu sy'n gosod sylfaen gyrfa actor.

"O'n i'n ofni bod yn rhy llwyddiannus drwy'r amser," meddai. "Dwi ddim yn gwybod pam, roedd e'n [O'Toole] gweld hynny'n fygythiad. Doedd dim rheswm iddo deimlo hynny, Duw a ŵyr, ond roedd yn ansicr."

Daeth y briodas i ben yn 1979.

O ddechrau'r 1980au, cafodd Siân fywyd newydd ac aeth ei gyrfa i gyfeiriad newydd gyda rhannau clodwiw yn sioeau cerdd y West End. Ym 1997, pan oedd Siân yn ei 60au hwyr, ymgymerodd â'i rôl mwyaf heriol eto, sef Marlene Dietrich. Roedd y sioe gerdd boblogaidd, Marlene, yn llwyddiant ysgubol yn Llundain ac ar Broadway, gan redeg am bedair blynedd.

Meddai Syr Derek Jacobi, ffrind a chyd-seren yn I, Claudius: "Y Fonesig Sian Phillips, mae hi yno gyda'n holl actoresau mwyaf blaenllaw. Mae ganddi harddwch, mae ganddi dalent. Mae ganddi garisma enfawr ac mae'n un o'r actoresau hynny yr ydych yn hapus iawn i fod yn eu cwmni."

Yn y ffilm dilynwn Siân wrth iddi ymarfer ei sioe ddiweddaraf It's All Greek gydag Alex Jennings. Yn 90 oed, mae ei hawch i barhau i weithio mor gryf ag erioed.

Dywed y Fonesig Eileen Atkins am ei ffrind; "Y tu ôl i lawer o straeon llwyddiant hudolus enfawr mae gweithiwr caled, caled. Does neb yn gweithio'n galetach na Siân. Cafodd Siân Phillips yr actores ei gwneud yng Nghymru."

Mae Siân yn actores o fri rhyngwladol ym myd teledu a ffilm, ond y theatr sydd agosaf at ei chalon.

"Rwy'n caru'r theatr. Waeth pa mor wael mae'ch diwrnod yn mynd, pan fyddwch chi'n dod i'r theatr a chlywed y gerddorfa, rydych chi'n teimlo ar ben y byd. Mae fel bod adref," meddai Siân.

Noddir arlwy Nadolig S4C gan Cig Eidion Cymru

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?