25 Ionawr 2024
A hithau'n ŵyl Santes Dwynwen mae cyfres boblogaidd Priodas Pum Mil yn chwilio am gariadon Cymru sydd awydd priodi.
Bydd pennod olaf cyfres bresennol o Priodas Pum Mil i'w gweld nos Sul yma am 21:00 gyda Abbey a Danial o Bwllheli yn gwneud addunedau i'w gilydd.
Mae'r gyfres yn cynnwys cael teulu a ffrindiau y pâr lwcus i drefnu eu priodas gyda chymorth y ddau gyflwynydd Emma Walford a Trystan Ellis-Morris.
Mae'r trefniadau at y diwrnod arbennig yn digwydd heb yn wybod i'r pâr, a rhaid i bopeth gostio llai na £5,000.
Medd Emma sydd wedi cyflwyno'r gyfres ers ei dechrau dros saith mlynedd yn ôl:
"Mae pob un rhaglen, pob un cwpwl, eu ffrindiau a'u teuluoedd, wedi bod yn arbennig.
"Mae'r gyfres yn fwy na jyst rhaglenni teledu, da ni'n trefnu diwrnod pwysicaf bywydau y cyplau a dwyt ti wir ddim isho siomi neb! Ond hyd yma, efo bron i 50 o briodasau wedi bod, mae hi'n parhau yn llwyddiannus."
Emma Walford a Trystan Ellis-Morris - y cyflwynwyr
Bydd cyfres newydd yn dechrau fis Tachwedd eleni, ac mae S4C yn annog cyplau i wneud trwy dilyn y ddolen: www.priodas.cymru.
Gall y briodas fod yn un draddodiadol neu cael thema yn rhedeg drwyddi fel gwnaeth Enfys a Jamie o Fethel pan briodon nhw â naws Eidalaidd i'r briodas.
Dartiau oedd thema priodas Donna a Dilwyn o Benygroes tra mai Alice in Wonderland ddewisodd Mair a Lucy o Ynys Môn ar gyfer eu priodas nhw.
Medd Emma:
"Baswn i'n annog unrhyw un sydd awydd priodi i wneud cais i'r rhaglen.
"Mae cymaint o brofiad efo ni fel tîm erbyn hyn, ond allwn ni ddim ei gwneud hi heb deulu a ffrindiau y cwpwl wrth gwrs.
"Does dim ots os oes thema neu beidio, bo' chi am briodi adref yn lleol, neu falle am fentro yn bellach i ffwrdd..."
Fel dywedodd mam priodfab mewn pennod diweddar o Priodas Pum Mil pan briododd Sara a Dan o Ddyffryn Nantlle yn Yr Alban:
"Pwy fasa'n disgwyl hynna yn Gretna Green – ond dyna ydi magic Priodas Pum Mil."
Os hoffech chi dderbyn cyngor ar sut mae cyflawni'r briodas berffaith am lai na £5,000 mae 'na lyfr ar werth nawr sydd yn rhannu perlau gwybodaeth.
Mae'r llyfr Sut i Drefnu Priodas Pum Mil ar gael yn y siopau lleol ac wedi ei ysgrifennu gan gyflwynwyr y rhaglen Trystan Ellis-Morris ac Emma Walford a hefyd y trefnydd priodasau Alaw Griffiths.
Gallwch ddal fyny ar holl raglenni diweddar Priodas Pum Mil ar S4C Clic a BBC iPlayer.