12 Mawrth 2024
Fe fydd ail gyfres o'r ddrama garchar boblogaidd Bariau i'w gweld ar S4C yn 2025, cynhyrchiad gan Rondo Media.
Drama ddwyieithog wedi ei lleoli yng ngharchar dynion Y Glannau yw Bariau, gyda'r straeon wedi eu seilio ar dystiolaeth carcharorion a swyddogion carchar go iawn.
Mae'r ddrama yn edrych ar berthynas y carcharorion a'r swyddogion carchar ac yn dilyn hynt a helynt prif gymeriad y gyfres, Barry Hardy.
Cafodd set dau lawr oedd yn cynnwys 24 cell ei adeiladu ar gyfer y cynhyrchiad oedd yn mesur rhyw 2,500m².
Ciron Gruffydd yw awdur Bariau, Alaw Llewelyn Roberts oedd cynhyrchydd y gyfres a'r cyfarwyddwr oedd Griff Rowland.
Gwion Tegid sy'n chwarae rhan Barry Hardy. Dywedodd Gwion:
"Mae'r ymateb i'r gyfres gyntaf wedi bod yn overwhelming, roedd gymaint o ymateb positif gan drawstoriad eang o'r gynulleidfa.
"Roedd saethu'r gyfres yn gymaint o bleser, heb os y gwaith mwyaf boddhaol i mi wneud hyd yn hyn, a rwyf yn edrych mlaen i gael cydweithio efo'r criw a chast talentog eto ar yr ail gyfres. Fedrai'm disgwyl i gael darllen beth sydd gan Ciron ar y gweill i Barry a chriw HMP Glannau."
Bydd yr ail gyfres, fel y cyntaf, yn cael ei saethu yn Stiwdio Aria yn Llangefni.
Gyda chefnogaeth Cymru Greadigol, fe sefydlwyd Stiwdio Aria gan Rondo Media a changen fasnachol S4C, S4C Digital Media Limited, er mwyn manteisio ar y nifer cynyddol o gynyrchiadau sy'n cael eu denu i ffilmio yng ngogledd Cymru.
Dywedodd Bedwyr Rees, Uwch-gynhyrchydd Rondo Media:
"Mae Rondo yn ofnadwy o falch o'r ymateb sydd wedi bod i Bariau ac yn gyffrous iawn am ddyhead S4C i gomisiynu cyfres bellach o'r ddrama.
"Mae Bariau wedi ymrafael â sawl pwnc cignoeth a heriol iawn, gan ddod â chymeriadau real, ymylol i'r sgrîn.
"Rydym yn edrych ymlaen at gael cyfle i fynd yn ddyfnach i mewn i'r byd hwn, gyda'r bwriad o greu cyfres arall fydd yn herio ar y naill law, a diddanu ar y llall."
Mae cyfres gyntaf Bariau ar gael i'w gwylio nawr ar S4C Clic a BBC iPlayer.
Dywedodd Gwenllian Gravelle, Comisiynydd Drama S4C:
"Fe gawsom ni ymateb gwych gan y gwylwyr i gyfres gyntaf Bariau a dwi yn edrych ymlaen yn fawr i weld yr ail gyfres ar y sgrîn.
"Mae'r tîm cynhyrchu a'r actorion yn griw talentog a chreadigol iawn sydd â gweledigaeth bendant.
"Dwi hefyd yn falch fod y cynhyrchiad yn rhoi hwb economaidd i'r ardal, a bod y buddsoddiad a'r gwariant am elwa Ynys Môn a'r ardal ehangach."