Llwyddiant i gynyrchiadau S4C yng ngwobrau RTS Cymru 2024
15 Ebrill 2024
Llwyddiant i gynyrchiadau S4C yng ngwobrau RTS Cymru 2024
Roedd hi'n noson lwyddiannus i gynyrchiadau S4C yng Ngwobrau RTS Cymru 2024 a gynhaliwyd yn y Coleg Cerdd a Drama Brenhinol ddydd Gwener 12fed o Ebrill.
Mae'r gwobrau'n dathlu'r cynnwys gorau gan fyfyrwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant dros y flwyddyn ddiwethaf.
Y ddrama gomedi Bwmp enillodd y categori gwreiddiol digidol, cynhyrchiad Octagon ar gyfer S4C Hansh.
Mae Bwmp yn adrodd hanes newyddiadurwr ifanc anabl sy'n gweithio mewn diwydiant sydd ddim yn ystyried eu hanableddau.
Enillwyd y wobr rhaglen ddogfen chwaraeon orau gan Ifan Phillips: Y Cam Nesaf, cynhyrchiad Whisper Cymru.
Roedd hi'n noson hynod lwyddiannus i raglenni Newyddion a Materion Cyfoes S4C, gydag Argyfwng Twrci a Syria a gynhyrchwyd gan dîm Newyddion S4C yn BBC Cymru Wales yn ennill y categori Newyddion (byr).
Enillodd Lydia Griffith a Siôn Jenkins y categori Newyddiaduraeth neu Gynhyrchiad aml-sgiliau, am eu hymchwiliad i'r gwerthwr tai Ian Wyn-Jones ar gyfer Y Byd ar Bedwar a gynhyrchwyd gan ITV Cymru Wales.
Enillodd Sarra Elgan gyflwynydd y flwyddyn am ei gwaith ar gyfer Cwpan Rygbi'r Byd, cynhyrchiad Whisper Cymru i S4C.
Dyfarnwyd y wobr seren sy'n codi i'r cyflwynydd Mared Jarman. Cyflwynodd Mared Y Frwydyr: Stori Anabledd ar gyfer S4C a ddarlledwyd ym mis Tachwedd 2023.
Roedd gwobr arbennig hefyd i opera sebon S4C, Pobol y Cwm.
Bydd y gyfres yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed yn ddiweddarach eleni.
Dywedodd Geraint Evans, Prif Swyddog Cynnwys dros dro S4C:
"Rydym ni mor falch o holl gynyrchiadau S4C a gafodd eu henwebu, a llongyfarchiadau arbennig i bawb a enillodd ar y noson.
"Mae'r llwyddiant yn ganlyniad i greadigrwydd, sgil ac ymroddiad y timau cynhyrchu sy'n creu ein cynnwys, ac rydyn ni mor lwcus yma yn S4C i allu gweithio gyda'r timau yma drwy gydol y flwyddyn."
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?