S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Bydd tymor newydd o Cwis Bob Dydd S4C yn dechrau ddydd Llun Mai 20fed.

Bydd yr enillydd yn derbyn y brif wobr, sef gwyliau i bedwar o bobl mewn chalet sgïo moethus yn Méribel yn Ffrainc.

Bob tro bydd rhywun yn cystadlu ar y cwis byddan nhw'n derbyn tocyn i'r raffl am gyfle i ennill y brif wobr. Mae'r siawns o ennill yn cynyddu po fwyaf mae rhywun yn cystadlu.

Bydd y tymor newydd yn rhedeg am ugain wythnos o fis Mai i fis Hydref, gyda'r enillydd yn cael ei gyhoeddi yn fuan ar ôl i'r tymor orffen.

Dyma bedwerydd tymor y cwis sydd wedi casglu bron i 20,000 o ddilynwyr ffyddlon.

Gallwch gymryd rhan ar ffôn Apple neu Android a'r cyfan sydd angen gwneud yw lawrlwytho'r ap a chofrestru.

Y nod yw ateb deg cwestiwn y dydd i gyd yn gywir, mor gyflym â phosib, er mwyn cyrraedd brig y sgorfwrdd.

Mae'r sgôr yn gyfuniad o'r atebion cywir a pha mor gyflym mae'r cystadleuwr wedi eu hateb, ac mae'r cwestiynau'n wahanol i bawb.

Dywedodd Megan Llŷn, un o gyflwynwyr y cwis:

"Mae'r tîm i gyd mor gyffrous i allu cyhoeddi tymor newydd o Cwis Bob Dydd

"Gallwch chi gymryd rhan yn hawdd iawn – dim ond lawrlwytho'r ap sydd angen.

"Chwaraewch yn erbyn eich ffrindiau, eich cydweithwyr, eich partner, eich teulu a Chymru gyfan.

"Pwy a ŵyr, efallai mai chi fydd yn ennill y brif wobr sef gwyliau arbennig i bedwar yn Meribel, Ffrainc.

"Pob lwc i chi gyd ar y cwis – a cofiwch bod mwy o siawns gyda chi i ennill bob tro fyddwch chi yn cymryd rhan!"

Dywedodd Ameer Davies-Rana un arall o gyflwynwyr y cwis:

"Fe fydd yna ystod eang o gwestiynau yn y cwis fydd yn siŵr o herio pawb."Bydd 'na gwestiynau cwis traddodiadol, ychydig o trivia, a chwestiynau am ddiwylliant Cymru."Cofiwch hefyd edrych allan amdano ni yn y digwyddiadau mawr dros yr haf"Fe fyddwn ni yn Eisteddfod yr Urdd, Y Sioe Frenhinol a'r Eisteddfod Genedlaethol a chyfleon gwych i ennill gwobrau Cwis Bob Dydd os gwnewch chi gymryd rhan."
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?