S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

20 Mai 2024

Mae cyfres S4C Garddio a Mwy wedi bod ar daith arbennig i Japan i weld blaguro'r coed ceirios, un o ddigwyddiadau mwyaf trawiadol byd natur.

Sakura yw'r enw Siapaneaidd ar y coed ac mae blodau ceirios yn cael eu dathlu gan y trigolion yno am eu prydferthwch.

Mae garddio yn cael ei ystyried yn gelfyddyd yn Japan ac mae llawer o'r cysyniadau sy'n cael eu gweld fel elfennau angenrheidiol mewn cynlluniau gerddi yn hanu oddi yno.

Yn ystod y rhaglen bydd criw Garddio a Mwy yn gweld y bonsai byd-enwog yn Tokyo, coed ceirios dinas hynafol Kyoto ac hefyd yn cael cyfle i fynd ar brofiad gwaith yng ngerddi Himeji i ddysgu crefft gosod blodau yn null ikebana.

Bydd modd gweld Garddio a Mwy: Japan ar S4C am 20:00 dydd Llun 20fed o Fai ac fe fydd y rhaglen hefyd ar gael i'w wylio ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Roedd amseru ffilmio'r rhaglen yn ddibynnol iawn ar y blaguro yn ôl un o gyflwynwyr y rhaglen Meinir Gwilym:

"Roedd y coed yn hwyrach yn blaguro eleni na'r ddegawd flaenorol, felly mi oedd ein hamseru ni o ran teithio yn anhygoel o lwcus.

"Mae'r rhaglen hon yn wledd i'r llygad wrth i ni ganolbwyntio ar y Sakura, a sut y daeth y coed yma i gael eu plannu a'u lluosogi hyd y wlad.

"Cawn wybod sut mae creu 'Karensansui', gardd sych neu gardd Zen sydd angen cribyn arbennig ar gyfer y gwaith. O fewn y gerddi hyn mae yna liwiau, blodau, pinwydd, coed, mynyddoedd, llynoedd, seremoni te, a hyd yn oed pysgod.

"Byddwn ni hefyd yn gweld yr elfennau cyfarwydd o erddi Siapaneaidd, ac yn cymharu garddio Cymru a Japan.

"Wrth i ni astudio'r gerddi a dod i adnabod y bobl sy'n gweithio arnyn nhw ein gobaith yw codi cwr y llen ar ddiwylliant y wlad ei hun."

Helen Scutt a Meinir Gwilym

Dywedodd cyd-gyflwynydd y rhaglen Helen Scutt:

"Mae garddio yn Japan yn grefft fel peintio llun. Mae 'na gymaint o elfennau i fod yn ymwybodol ohonyn nhw.

"Os 'chi erioed wedi meddwl mynd i Japan, os chi'n hoffi garddio, neu mond yn hoffi edrych ar flodau prydferth a dysgu am ddiwylliant gwahanol, bydd y rhaglen yma'n siŵr o blesio. Roedd e yn brofiad gwirioneddol anhygoel".

Bydd cyfres newydd Garddio a Mwy yn dechrau ar S4C am 20:25 ar Fehefin 6ed.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?