S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

15 Mai 2024

Mae un o swyddogion Heddlu Gogledd Cymru wedi sôn am un o'r ymosodiadau cŵn gwaethaf iddo weld yn ei yrfa, pan laddwyd 22 o ddefaid oedd yn cario wyn, ac anafwyd 48 arall.

Cafodd yr ymosodiad gan ddau gi XL Bully ar fferm ger Wrecsam ei ddal ar gamerâu cyrff y swyddogion wrth iddyn nhw ffilmio cyfres newydd Y Llinell Las ar gyfer S4C.

Yn ôl Iwan Owen, aelod o'r tîm Troseddau Cefn Gwlad sydd â dros 40 mlynedd o brofiad gyda'r Heddlu, mae ymosodiadau ar ddefaid yn digwydd yn wythnosol yng ngogledd Cymru.

Fe wnaeth y ffermwr golli gwerth tua £14,000 o anifeiliaid yn yr ymosodiad.

Bydd modd gweld pennod gyntaf cyfres newydd Y Llinell Las ar S4C am 21:00 ddydd Mawrth 14 Mai, ac hefyd ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Gan fod gymaint o dirlun gogledd Cymru yn dir amaethyddol, mae gan yr Heddlu dîm yn benodol i ymchwilio i droseddau cefn gwlad.

Mae'r rhaglen yn dilyn yr uned wrth iddyn nhw ymateb i ddau ddigwyddiad o ymosodiadau cŵn XL Bully ar ddefaid.

Dywedodd Iwan:

"Mae'n siŵr bod y gang traffig yn cael llond bol o bobl sy'n yfed a gyrru. Wel, i ni, y poeni defaid sydd yn dod drosodd a drosodd."

"Be uffern ma rywun isho XL Bully? Dwim yn dalld pam bo chdi isio ci o'r ffasiwn beth mewn tŷ, mewn cartref. Meddylia pa mor gryf ydyn nhw, faint o niwed fysa nhw'n medru neud – mae'n beryg bywyd."

"Maen nhw [ffermwyr] yn hogia' calad – maen nhw 'di hen arfer efo cŵn a chael gafael ar gi, ond fysa chdi ddim yn cymryd gafael ar XL Bully. Does na ddim llawer o chance i chdi gerdded o 'na heb gael dy anafu yn ofnadwy."

Ond mae cŵn hefyd yn rhan hanfodol o waith yr heddlu.

Mae PC Siôn Parry yn swyddog gyda Heddlu Gogledd Cymru ers dros 15 mlynedd ac mae gweithio i'r Uned Gŵn yn uchelgais yn ei yrfa.

Dywedodd Siôn:

"Dwi bob tro yn cymharu ci i ddeg plisman. A mwy weithiau. Ma pobl isio cwffio efo plismyn, s'neb isio cwffio efo ci.

"Ti'n mynd at rywun a deud wrthyn nhw i adael a ma' 'na gi yn glafoerio ac yn cyfarth – ti'n gadael, dwyt, os ti'n gall."

Yn y bennod yma, rydym yn dilyn Siôn yn ymateb i ddigwyddiadau ble mae ci yn gallu bod yn ddefnyddiol - yn benodol mewn achos o ddwyn car ble mae'r troseddwyr yn rhedeg i ffwrdd o'r safle.

"Ma'n bleser ei gwatchad nhw'n gweithio...Ddim fi sy'n neud y gwaith – y ddau gi 'di'r petha' clyfar, jyst y chauffeur dwi!"

Yn ogystal â'r Tîm Troseddau Cefn Gwlad a'r Uned Gŵn, mae'r gyfres 6 pennod wedi cael mynediad at waith heriol yr Uned Traffig, yr Uned Gwrthdrawiadau a'r Swyddfa Reoli yn Llanelwy.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?