S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

23 Mai 2024

Wrth roi teyrnged i'r cynhyrchydd Gwenda Griffith, dywedodd Geraint Evans, Prif Swyddog Cynnwys Dros Dro S4C:

"Gyda thristwch mawr y clywsom ni am farwolaeth Gwenda Griffith. Roedd yn un o brif gynhyrchwyr rhaglenni teledu annibynnol yng Nghymru am dros 30 mlynedd.

"Wedi sefydlu cwmni Fflic, gosododd stamp a steil unigryw ei hun ar y sianel gan gynhyrchu cyfresi tai poblogaidd 04 Wal ac Y Tŷ Cymreig, a oedd yn adlewyrchu ei hangerdd am bensaernïaeth a chyfresi yn annog dysgwyr Cymraeg, fel Cariad@iaith.

"Roedd ei thalent yn amhrisiadwy ac mi fydd colled fawr ar ei hôl. Mae ein meddyliau gyda theulu a ffrindiau Gwenda, gan ddiolch iddi am ei chyfraniad arbennig at waith S4C a dros ein gwylwyr dros nifer fawr o flynyddoedd."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?