S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gemau rygbi Cymru yng nghyfres yr haf i’w gweld ar S4C

28 Mai 2024

Gemau rygbi dynion a menywod Cymru dros yr haf ar S4C.

Bydd S4C yn darlledu gêm Cymru v De Affrica yn fyw yn ogystal ag uchafbwyntiau'r ddwy gêm yn erbyn Awstralia yng nghyfres Gemau'r Haf.

Bydd gêm ail-gyfle Cymru yn erbyn Sbaen yng nghystadleuaeth y WXV yn cael ei ddarlledu'n fyw.

Gwylio S4C fydd yr unig ffordd i weld y gemau yma ar deledu am ddim.

De Affrica fydd gwrthwynebwyr cyntaf Cymru a hynny yn Stadiwm Twickenham ar 22 Mehefin, cyn i Gymru deithio i Awstralia ar gyfer dwy gêm brawf ar 6 Gorffennaf a 13 Gorffennaf.

Bydd menywod Cymru yn wynebu Sbaen yng nghystadleuaeth y WXV ar Barc yr Arfau ar ddydd Sadwrn 29 Mehefin.

Bydd enillydd y gêm yn mynd ymlaen i chwarae yn nhwrnamaint y WXV2 yn Ne Affrica yn yr Hydref.

Daw cyfres yr haf yn dilyn ymgyrch Chwe Gwlad siomedig i dîm y dynion, gyda'r crysau cochion yn colli pob un o'u pum gêm yn ystod y bencampwriaeth, gan ennill y llwy bren am y tro cyntaf ers 2003.

Bydd Cymru yn gobeithio gallu taro yn ôl yn erbyn dau o dimau gorau'r byd dros fisoedd yr haf.

Sarra Elgan fydd yn cyflwyno'r gêm fyw yn erbyn De Affrica a Lauren Jenkins fydd yn cyflwyno uchafbwyntiau'r ddwy gêm yn erbyn Awstralia.

Y tîm sylwebu i'r gemau fydd Gareth Charles, cyn-gapten Cymru Gwyn Jones a'r cyn-chwaraewr profiadol Sioned Harries.

Meddai Lauren Jenkins:

"Dwi erioed wedi bod ar daith rygbi i Awstralia a dwi'n edrych ymlaen yn eiddgar i gyfleu holl gyffro'r gyfres.

"Mi fydd digon o gyffro o safbwynt y Wallabies nawr bod un o feddylwyr gorau'r gêm Joe Schmidt wrth y llyw.

"Er fod Gatland wedi curo Awstralia mewn dwy Gwpan Byd yn olynol ac wedi mwynhau llwyddiant yno gyda'r llewod, dwi'n rhagweld mai dyma fydd un o'i heriau mwyaf yn erbyn ei hen elyn. Ond am gyfle i rai o fois ifanc Cymru i sefydlu eu hun yn rhan o oes newydd y tîm cenhedlaethol."

Meddai Gareth Charles:

"Roedd hi'n wych i weld torfeydd yn heidio i wylio gemau 6 Gwlad y menywod yn ddiweddar a bydd carfan Ioan Cunningham yn gobeithio adeiladu ar y momentwm yma wrth wynebu Sbaen yn eu her nesaf.

"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at gyfres yr haf, yn enwedig ar ôl 6 Gwlad ofnadwy. Bydd e'n brofiad rhyfedd i chwarae yn Twickenham mewn gêm gartref i Dde Affrica yn enwedig gyda cymaint o gefnogwyr y Springboks yn Llundain, a bydd e'n brawf a hanner yn erbyn pencampwyr y byd.

"Perfformiad Cymru yn erbyn Awstralia yng Nghwpan y Byd oedd y gorau yn ystod ail deyrnasiad Warren Gatland, Ond gyda Joe Schmidt nawr yn hyfforddi'r Wallabies bydd e'n ddiddorol gweld ble mae'r ddwy wlad erbyn hyn."

Bydd modd gwylio'r ddwy gêm fyw ac uchafbwyntiau'r ddwy gêm yn erbyn Awstralia ar S4C, S4C Clic a BBC iPlayer.

S4C – Cartref Chwaraeon Cymru

Rygbi: Gemau'r Haf

De Affrica v Cymru – Dydd Sadwrn, 22 Mehefin, 13:30

Cymru v Sbaen - Dydd Sadwrn, 29 Mehefin, 17:15

Awstralia v Cymru – Dydd Sadwrn, 6 Gorffennaf, 19:00 (Uchafbwyntiau)

Awstralia v Cymru – Dydd Sadwrn, 13 Gorffennaf, 19:00 (Uchafbwyntiau)

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?