S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Datganiad - Priodas Pymtheg Mil

Dywedodd llefarydd ar ran S4C:

"Yn anffodus rydym wedi gorfod ffarwelio â Teresa a Rutger o gystadleuaeth Priodas Pymtheg Mil.

"Yn ddamweiniol fe dorrwyd y canllawiau sy'n ymwneud ag annog pobl i bleidleisio.

"Mae hyn yn golygu bod y bleidlais wedi ei chyfaddawdu.

"Er tegwch i'r cwpwl arall sy'n rhan o'r gystadleuaeth, ac er mwyn cynnal ymddiriedaeth ein gwylwyr yn S4C, rydym wedi gorfod cymryd y penderfyniad anodd i ddod â'r gystadleuaeth i ben.

"Rydym yn dymuno pob hwyl ac hapusrwydd i Teresa a Rutger ac rydym yn cynnig cefnogaeth iddyn nhw yn sgil y penderfyniad.

"Edrychwn ymlaen i helpu gwireddu dymuniadau priodas y pâr llwyddiannus, Aled a Malin, yn ddiweddarach eleni."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?