S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn dangos gornest MMA Brett Johns yn y PFL

26 Mehefin 2024

Bydd S4C yn dangos gornest yr ymladdwr MMA Brett Johns yn fyw o'r Unol Daleithiau ar nos Wener 28 Mehefin ar S4C Clic, YouTube a Facebook o 23:00 ymlaen.

Bydd yr ymladdwr o Bontarddulais yn wynebu'r Americanwr Tyler Diamond fel rhan o'r PFL Regular Season - Cynghrair yr Ymladdwyr Proffesiynol.

Bydd yr ornest yn cael ei chynnal yn y Sanford Pentagon yn Sioux Falls, De Dakota.

Mae Brett yn ymladd yn yr adran Pwysau Plu, ac yn cystadlu am y cyfle i gyrraedd pencampwriaethau diwedd y tymor, gydag enillydd pob adran yn ennill gwobr o $1m.

Dyma fydd ei ail ornest yn y PFL eleni ar ôl colli yn erbyn Timur Khizriev drwy benderfyniad unfrydol ym mis Ebrill.

Mae'r paratoadau yn mynd yn dda i Brett, ac mae'n teimlo'n hyderus wrth edrych ymlaen i'r ornest.

Meddai Brett:

"Mae'n mynd yn grêt – tro diwetha' doedd e ddim wedi mynd to plan ond nawr mae gyda ni ail gyfle i fynd trwyddo. Mae'n edrych yn slim, ond mae dal siawns – pan ti'n rhoi miliwn o ddoleri fana, mae'n rhoi digon o hyder i fynd trwyddo a trio ennill yr arian.

"Mae'r ffaith fod e mlaen ar S4C yn beth enfawr i'r gamp...O'dd lle oni blwyddyn diwetha' yn 2023, o'ni mewn lle gwael yn feddyliol...ac mae gweld lle o'ni i nawr, mae e'n beth enfawr a fi'n ddiolchgar i S4C bo nhw'n dangos e."

"Mae lot o bethau sydd wedi digwydd tu fas i bywyd fi nawr sydd wedi rhoi hyder i fi fynd trwyddo i'r ffeit nesaf a fi methu aros. Tro diwetha' o'ni fwy nerfus ond tro yma, fi methu aros!"

Ar ôl cyfnod heriol llynedd gydag anafiadau a cholli babi yn y groth, mae Brett a'i deulu yn edrych ymlaen i'r cyfnod nesaf yn ei fywyd proffesiynol a phersonol.

Ac yn ddiweddar, mae Brett a'i wraig Carys wedi croesawu babi bach i'r teulu:

"Mae e wedi hollol newid mindset fi cyn ffeit – fi'n ddiolchgar ofnadwy...Mae e'n ffocws newydd a fi'n credu dyna beth o'ni ishe blwyddyn diwetha...Mae e fel fresh slate."

Yn dilyn y darllediad byw o'r ornest ar nos Wener bydd modd ail weld yr holl gyffro ar raglen arbennig ar S4C nos Sadwrn 29ain o Fehefin am 21:00.

Yn cyflwyno'r ornest o'r UDA bydd Owain Gwynedd ac yn sylwebu o'r stiwdio bydd Gareth Roberts. Yn ymuno â nhw, bydd yr arbenigwr MMA Euros Jones Evans a'r hyfforddwr MMA Greg Creel.

Mae hyn yn rhan o benwythnos llawn o chwaraeon ar S4C gan gynnwys Triathlon Llanelli, cymalau cyntaf y Tour de France a gêm Sbaen yn erbyn Cymru yng nghystadleuaeth rygbi y WXV.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?