S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

3 Gorffennaf 2024

Mae'r cyflwynydd Steffan Powell yn dweud bod dod yn rhiant wedi ysgogi iddo feddwl o ddifri am effeithiau newid hinsawdd.

Mewn cyfres newydd tair rhan, Colli Cymru i'r Môr, bydd camerâu S4C yn dilyn Steffan ar daith o amgylch arfordir Cymru wrth iddo ymchwilio i'r pwnc ymhellach.

Mae Steffan yn wyneb a llais cyfarwydd fel cyflwynydd Doctor Who: Unleashed, ac hefyd yn ohebydd a chyflwynydd profiadol i wasanaethau newyddion y BBC.

"Mae'r byd yn newid a dyw Cymru ddim yn eithriad" meddai Steffan, sy'n dad i Joseff sy'n ddwy oed a Sadie sy'n ddeufis oed.

"Mae 'na argyfwng ar hyd yr arfordir - mae'n un o frwydrau mawr ein hoes.

"Mae 'da fi ddiddordeb yn y ffaith fod Cymru'n newid a bod ein plant ni am weld Cymru wahanol i ni falle.

"Pa fath o Gymru fydd e iddyn nhw? Mae un traeth oedd yn bwysig i mi pan ges i'n magu, ac 'wy moyn bod fy mhlant i'n gallu mynd i'r un traeth a phrofi'r un peth a wnes i."

Bydd y bennod gyntaf i'w gweld ar S4C am 21:00 nos Fercher 12 Mehefin, ac hefyd ar gael i wylio ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Fe fydd yn cwrdd â phobl gyffredin mewn sawl lleoliad ar hyd yr arfordir sydd eisoes yn cael eu heffeithio gan faterion fel llifogydd, erydu arfordirol neu stormydd.

Bydd hefyd yn cwrdd â'r arbenigwyr newid hinsawdd a pheirianwyr sy'n cynnig gobaith ac atebion i ni gyda dyfeisiadau arloesol a mentrau cyffrous.

Tra bod Steffan Powell yn canolbwyntio yn y gyfres ar Gymru, bydd y cyflwynydd tywydd ac arbenigwr rhewlifoedd Steffan Griffith yn ymuno â theithiau ymchwil uchelgeisiol i rewlifoedd Svalbard a Llen Iâ Yr Ynys Las.

Caiff ddarganfod pam bod y newidiadau mawr sy'n digwydd yno yn effeithio'n uniongyrchol ar ein dyfodol yma yng Nghymru.

Fel newyddiadurwr sydd wedi bod yn darlledu ers 15 o flynyddoedd, mae Steffan wedi gweld bod y pwnc yn derbyn sylw parhaol yn y penawdau:

"Mae dros 234,000 o adeiladau ar hyd arfordir Cymru mewn peryg ar hyn o bryd.

"Newid hinsawdd mwy na thebyg fydd y stori newyddion fwya' fydd yn cael ei drafod am y blynyddoedd i ddod.

"Felly roedd cael cyfle i wneud prosiect oedd yn tapio mewn i rôl Cymru yn y darlun ar draws y byd o ddiddordeb mawr i mi" meddai Steffan Powell.

Ond, er gwaetha'r holl drafod mae rhai pobl, meddai, yn gwrthod cydnabod bod newid hinsawdd yn digwydd:

"Wi'n credu bod ofn yn ffactor – mae rhai'n meddwl bod hi'n well i gredu nad oes problem yn hytrach nag edrych ar realiti'r peth, achos mae'r realiti'n gallu bod yn ofnus.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?