S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Chwarae Teg? Cyfres Byd Eithafol S4C yn ymchwilio i’r ddadl ynglŷn â chaniatáu menywod traws i gystadlu mewn categorïau benywaidd ar drothwy’r Gemau Olympaidd

5 Gorffennaf 2024

Mae angen gwneud llawer mwy o ymchwil i weld a yw hi'n deg neu beidio i ganiatáu menywod traws i gystadlu mewn categorïau benywaidd mewn chwaraeon, yn ôl gwyddonydd blaenllaw.

Mewn cyfweliad gyda chyflwynydd y rhaglen, Maxine Hughes, dywedodd Dr Shane Heffernan, arbenigwr ar ffisioleg athletwyr elitaidd ym Mhrifysgol Abertawe, bod y sampl sydd ganddyn nhw yn rhy fach o ran nifer ar hyn o bryd.

Yn ôl Dr Heffernan mae angen niferoedd llawer mwy ar gyfer y gwaith ymchwil, ond bod hynny'n heriol am mai cyfran fach o'r boblogaeth sydd yn dewis newid eu rhywedd.

Yn y rhaglen Byd Eithafol: Chwarae Teg? mae'r newyddiadurwraig a chyn-bencampwr Jiwdo Cymru, Maxine Hughes yn edrych ar y dadleuon cymhleth sydd yn dominyddu'r byd chwaraeon ac yn gofyn a ddylid caniatáu menywod traws i gystadlu mewn categorïau benywaidd.

Bydd y rhaglen i'w gweld ar S4C ar 7 Gorffennaf am 20:00 a hefyd ar gael ar S4C Clic a BBC iPlayer.

Ar drothwy Gemau Olympaidd 2024 ym Mharis, am y tro cyntaf yn hanes y digwyddiad, bydd cynrychiolaeth gyfartal o athletwyr gwrywaidd a benywaidd.

Ond, y cyrff llywodraethu unigol ar gyfer pob categori chwaraeon sy'n parhau i gael y gair olaf ynglŷn â chaniatáu menywod traws i gystadlu yng nghategorïau benywaidd pob camp, gan ysgogi galwadau gan lawer o bobl sy'n ymddangos yn y rhaglen hon, i Bwyllgor Olympaidd yr IOC roi mwy o arweiniad.

Mae Non Evans wedi cystadlu dros Gymru mewn sawl camp - reslo, jiwdo, rygbi, codi pwysau, tag rygbi a bocsio. Mae hi'n credu'n gryf na ddylai menywod traws gael yr hawl i gystadlu mewn categorïau benywaidd:

"Os yw dyn wedi tyfu lan efo esgyrn yn fwy, testosteron yn y corff, calon yn fwy, popeth - mae gen i broblem gyda hwnna...Dim ots os maen nhw'n trans, dwi ddim yn hido dim.

"Baswn i ddim wedi cael yr un llwyddiant fi wedi cael yn fy ngyrfa petawn i wedi cystadlu mewn jiwdo, reslo, rygbi, codi pwysau yn erbyn person trans sydd wedi newid ar ôl 20 mlynedd."

Mae Meghan Cortez-Fields o'r UDA yn nofiwr ac yn fenyw traws. Mi wnaeth hi gystadlu yn nhîm y dynion yn y coleg am dair blynedd cyn trawsnewid i fenyw a dechrau nofio i dîm y menywod:

"Mae llawer o bobl sydd yng nghanol hyn i gyd yn croesi'r llinell hynny pan mae'n dod at annilysu ein hunaniaeth. Ac yn honni ein bod ni'n rhyw fath o angenfilod.

"Mae'r lefel o ba mor anghyfforddus mae rhai ohonom ni'n teimlo...yn medru golygu lladd ein hunain – ac mae angen deall hynny...Ac mae difrifoldeb hynny angen ei werthfawrogi."

Tu ôl i'r penawdau, nid oes amheuaeth fod yna bobl sy'n cael eu heffeithio gan y ddadl gymhleth a sensitif yma, sydd wedi creu rhaniad enfawr ym myd chwaraeon.

Ond mae Dr Shane Heffernan yn gadarn o'r farn mai ymchwil pellach ac amser fydd yn medru rhoi'r atebion i benderfynu a yw'n deg i fenywod traws i gystadlu yn yr un categorïau â menywod:

"Os dewch yn ôl ata'i mewn deng mlynedd a gofyn y cwestiwn a ddylai menywod traws gystadlu yng nghategori'r merched, bydd gennym ddeng mlynedd yn fwy o wybodaeth, a byddwn yn fwy cymwys i geisio pennu'r polisïau cywir."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?