S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

19 Gorffennaf 2024

Fel prif ddarlledwr Y Sioe Frenhinol yn Llanelwedd bydd S4C yn ffrydio'r cystadlu'n fyw o bedwar cylch yn ogystal â chyflwyno rhaglenni dyddiol ac uchafbwyntiau o'r maes.

Llynedd, darlledodd S4C fwy nag erioed o'r Sioe wrth ffrydio'r holl gystadlu o'r prif gylch gyda 250,000 o sesiynau gwylio ar draws wahanol blatfformau.

Eleni, bydd S4C yn parhau gyda'i darllediadau cynhwysfawr.

Bydd yr wythnos yn dechrau gyda rhaglen arbennig ar nos Sul, 21 Gorffennaf, am 9yh gyda rhagflas o ddigwyddiadau'r wythnos. O'r dydd Llun gallwch wylio holl gystadlu'r Prif Gylch yn ei gyfanrwydd o 8am bob bore trwy ddewis rhwng 4 ffrwd byw - Y Prif Gylch (gyda sylwebaeth ddwyieithog), Cylch y Gogledd, Cylch y De a'r Cylch Canol - ar sianel YouTube @YSioeS4C, tudalen Facebook @S4Csioe, a S4C Clic.

Yna am 9yb bydd bwrlwm a chystadlu'r Sioe yn fyw ar raglen Y Sioe ar S4C, S4C Clic, BBC iPlayer yn ogystal â Facebook a YouTube S4C gyda rhaglen uchafbwyntiau pob nos am 9.00yh. Bydd y cyfan ar gael yn rhyngwladol gyda sylwebaeth Saesneg ar gael ar y darllediad llinol a S4C Clic.

Yn cyflwyno'r arlwy o'r Sioe bydd tîm cyfarwydd iawn - Nia Roberts yn llywio digwyddiadau'r dydd, Ifan Jones Evans a Mari Lovgreen yn edrych nôl ar yr uchafbwyntiau pob nos ac Alun Elidir, Meinir Howells, Aeron Pughe, Hannah Parr a Heledd Cynwal yn crwydro'r maes a mwynhau'r cystadlu.

Ar ôl cyflwyno o'r Sioe am y tro cyntaf y llynedd, mae Hannah Parr yn ôl eleni i gyflwyno cystadlaethau'r ceffylau poblogaidd o'r Prif Gylch gan gynnwys y Merlod a'r Cobiau Cymreig a gwobrwyo Cwpan Siôr, Tywysog Cymru, ar y dydd Mercher.

Meddai Hannah, sy'n athrawes Gymraeg yn Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan ac yn fridwraig ceffylau yn Llangeitho;

"Odd e'n saff i ddweud bo fi'n nyrfys llynedd – do'n i ddim yn gwybod beth i ddisgwyl na shwt odd e'n mynd i weithio...ond ges i syndod bod y bwrlwm a'r cynnwrf byth yn diflannu, o'dd e 'na bob tro. Bob tro o'dd rhywun yn ennill, o ti'n cal yr un hwb o egni 'to felly do'dd y diwrnodau byth yn teimlo'n hir."

Mae Pencampwriaeth y Cobiau Cymreig yn uchafbwynt yn y Sioe Frenhinol, ac yn ôl Hannah, nhw yw'r goreuon o'r bridiau Cymreig:

"Mae Cymru yn cael eu adnabod am y Cobiau Cymreig – cewri'r ceffylau ydyn nhw. Maen nhw'n dod fewn i'r ring 'na fel dreigiau – ond gewch chi ddim ceffyl â chalon fwy.

"Dyma brif gystadleuaeth y sioe ar y prynhawn dydd Mercher – mae pawb yn gweithio tuag at y senior stallions. Mae'r juniors yn dda hefyd wrth gwrs ond y senior stallions yw y cewri.

"Unwaith mewn bywyd falle fydd rhai yn ennill y senior stallions yn y Sioe Frenhinol ac mae'n gallu bod yn hwb mawr i unrhyw fridfa yn enwedig bridfa ifanc sydd ar y ffordd lan."

"O ran y gystadleuaeth, hwnna yn bendant, heb os, yw yr un mae pawb yn mynd i wylio. Bydd y grand stand dan ei sang, bydd rownd ochrau'r Prif Gylch, bydd pob cystadleuydd lawr 'na o'r bridiau Cymreig i weld pwy sydd yn mynd â hi."

Ac ar ddiwrnod y Pencampwriaeth Cobiau Cymreig mae S4C yn cynnig cyfle i ennill te prynhawn a gwylio'r gystadleuaeth yn fyw o falconi adeilad S4C eleni, yng nghwmni'r teulu o'r gyfres boblogaidd Ma'i Off 'Ma.

I wneud cais i ennill y te prynhawn a'r parau o docynnau ar ddiwrnod sy'n uchafbwynt yn wythnos y Sioe Frenhinol, ewch i wefan S4C am fwy o fanylion.

Gallwch hefyd weld holl uchafbwyntiau'r wythnos mewn rhaglen arbennig ar nos Sul, Gorffennaf 28, am 9yh.

Y Sioe 2024 Rhagflas - nos Sul, Gorffennaf 21 am 9yh

Y Sioe 2024 Byw - pob dydd Gorffennaf 22, 23, 24 & 25 o 9am

Y Sioe Uchafbwyntiau - pob nos Gorffennaf 22, 23, 24 & 25 am 9yh

Y Sioe 2024 Uchafbwyntiau'r wythnos – nos Sul, Gorffennaf 28 am 9yh

Bydd Heno yn darlledu o'r Sioe pob nos am 7yh

Ar alw: S4C Clic, BBC iPlayer a platfformau YouTube a Facebook S4C

Cynhyrchiad Boom Cymru & Slam Media i S4C

Yn ogystal â'r darllediadau, bydd amryw o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn adeilad S4C ar faes Y Sioe.

Dydd Llun Gorffennaf 22:

Cwrdd â chriw Cyw, coginio gyda Prynhawn Da, Pobol y Cwm yn 50 oed, sylwebu chwaraeon.

Dydd Mawrth Gorffennaf 23:

Cwrdd â chriw Cyw, coginio gyda Prynhawn Da, gweithdy garddio, sylwebu chwaraeon.

Dydd Mercher Gorffennaf 24:

Cwrdd â chriw Cyw, coginio gyda Prynhawn Da, Pobol y Cwm yn 50 oed, sylwebu chwaraeon.

Dydd Iau Gorffennaf 25:

Cwrdd â chriw Cyw, coginio gyda Prynhawn Da, gweithdy garddio, sylwebu chwaraeon.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?