S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Coffâd i’r Ffarmwr, Darlledwr a Gwladgarwr Dai Jones - ailenwi adeilad S4C yn y Sioe Frenhinol

23 Gorffennaf 2024

Mae S4C a Sioe Frenhinol Cymru yn cydweithio i goffau un o ddarlledwyr blaengar Cymru.

Heddiw (Dydd Mawrth, 23 Gorffennaf) fe fydd adeilad S4C ar safle'r Sioe yn LLanelwedd yn derbyn enw newydd – Corlan Dai Llanilar - mewn teyrnged i'r diweddar Dai Jones fu'n wyneb cyfarwydd ar y sianel am flynyddoedd.

Bydd llechen yn cael ei ddadorchuddio ar furiau adeilad S4C am 10.45 a derbyniad coffa i ddilyn am 11.00.

Yn y derbyniad bydd gwasg Y Lolfa'n lansio cyfrol Cofio Dai, casgliad o ysgrifau wedi'u llunio gan y bobl oedd yn ei adnabod orau ym mhob rhan o'i fywyd. Roedd golygydd y gyfrol, Beti Griffiths, yn ffrind agos i Dai a'i weddw, Olwen.

Bu farw Dai Jones, oedd hefyd yn ffermwr ac yn ganwr talentog yn 78 oed ym mis Mawrth 2022.

Bu'n cyflwyno sawl rhaglen adnabyddus ar y radio a theledu, ond mae'n cael ei gofio'n bennaf fel cyflwynydd y gyfres Cefn Gwlad.

Mae'r llechen, sy'n cyfeirio at Dai fel y 'Ffarmwr, Darlledwr, Gwladgarwr', yn cael ei chyflwyno gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru a hynny ym mlwyddyn Sir Nawdd Ceredigion, ac yn cynnwys englyn gan y bardd Tudur Dylan Jones:

Dai

Dai'r ardal hyd y dalar, - Dai â'i lais

Hyd y wlad, Dai'r cymar,

Dai frenin ei werin wâr.

Llawn o hwyl yw Llanilar.

Meddai Sioned Wiliam, Prif Weithredwr Dros Dro S4C:

"Mae'r penderfyniad i alw adeilad S4C ar faes Sioe Frenhinol Cymru yn Corlan Dai Llanilar wedi bod yn un rhwydd a naturiol iawn i'w gwneud.

"Roedd Dai Jones yn un o hoelion wyth y byd darlledu Cymraeg, a'i afiaith dros y Gymraeg, darlledu Cymraeg ac hefyd dros gefn gwlad Cymru yn heintus.

"Rydym yn falch iawn fel S4C ein bod yn gallu coffau'r gŵr arbennig ac unigryw hwn mewn ffordd arbennig. Bydd y cenedlaethau i ddod hefyd yn gallu dysgu am Dai a chael eu hysbrydoli ganddo."

Meddai Aled Rhys Jones, Prif Weithredwr Sioe Frenhinol Cymru:

"Byddai Dai yn dweud yn aml, y fraint fwyaf a ddaeth i'w rhan oedd cael ei ethol yn Llywydd y Gymdeithas. Ac eleni, mae'n fraint i ni ddadorchuddio cofeb barhaol am un o fawrion y genedl. Roedd y Sioe yn golygu lot i Dai ac rydym yn cofio gyda gwen ar ein hwynebau am un o gewri cefn gwlad Cymru yr wythnos hon."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?