1 Awst 2024
Yn y rhaglen nesaf o Canu Gyda Fy Arwr, Ian 'H' Watkins o'r band Steps yw'r arwr ac ynddi mae'n canu yn y Gymraeg am y tro cyntaf erioed gan ddod â dagrau i lygaid ei fam.
Mae H yn dychwelyd i Gwm Rhondda yn y rhaglen arbennig hon fydd i'w gweld ar Awst 1af am 9pm.
Mae H wedi bod yn dysgu Cymraeg a'i blant yn mynychu ysgol Gymraeg, ond dyma'r tro cyntaf iddo ef ganu yn gyhoeddus yn Gymraeg, gan wneud hynny o flaen cynulleidfa leol yn theatr y Parc a'r Dâr yn Treorci. Meddai H am y profiad:
"Roedd hi'n emosiynol dros ben i fod nôl yma yn canu... roedd hi'n noson arbennig iawn."
Ym mhob rhaglen o Canu Gyda Fy Arwr, mae 'ffan' yn cael cyfle i ganu gyda'u harwyr. Y tro hwn, tro Carys Howells o Lanelli yn wreiddiol ond sydd bellach yn byw ym Mhencader yn Sir Gaerfyrddin oedd hi i gael canu gyda'i harwr hi.
Bronwen, H, Carys a Rhys a disgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn yn y Porth
Mae Carys wedi bod yn ffan o Steps ers eu dechrau nol yn 1997, ynghyd â'i mam wnaeth farw ar ôl cael strôc yn 2019. Y tro diwethaf iddynt fynd i ddigwyddiad gyda'i gilydd oedd i weld Steps yn chwarae ym Mharc y Scarlets, Llanelli.
Mae H am gyflwyno perfformiad y noson i fam Carys ac yn dweud wrth Carys bod angen iddyn' nhw fod yno i'w gilydd – H yn cefnogi Carys gyda'i chanu a Carys yn cefnogi H gyda'i Gymraeg pan yn canu fersiwn cwbl newydd o'r emyn boblogaidd, Cwm Rhondda gyda'i gilydd.
Meddai H am ganu'r emyn yn Gymraeg:
"Mae'n arbennig iawn gan ei fod yn un o hoff ganeuon fy nhad-cu, ac yn fwy arbennig i fi gan mod i'n ddysgwr ac fe wnaeth fy nhad-cu ddysgu Cymraeg yn hwyrach yn ei fywyd, felly byddai e wedi bod mor falch – proud as punch."
Bronwen Lewis y gantores gyfansoddwraig o Gastell-nedd sydd yn cyflwyno Canu Gyda Fy Arwr gan ddysgu rhywfaint o Gymraeg i H, ar y cyd â'r canwr opera Rhys Meirion. Mae Bronwen hefyd yn ffan mawr o Steps ac wedi bod yn gweithio ar fersiwn Gymraeg arbennig o hoff gân Steps H, Deeper Shade of Blue.
Mae H a Bronwen yn canu 'Mae'r Felan Arna i' tra'n edrych dros Penrhys gyda H yn dweud yn bendant: "Ni'n mynd i ganu hwn ar Cân i Gymru!" Dyma fideo ohonynt yn canu: https://youtu.be/PPZaFzwZKQo
Mae'r cyflwynwyr yn dilyn llwybr bywyd H ar hyd Cwm Rhondda i rhai o lwyfannau fwyaf y byd gan gwrdd â rhai o'r bobol sydd wedi dylanwadu arno fwyaf. Mae'r rhain yn cynnwys ei fam, Gaynor Watkins sydd yn athrawes dawnsio llinell. Meddai H:
"Ein 'hit' cyntaf oedd 5, 6, 7, 8. Roedd e i fod i wneud dawnsio linell yn cŵl. Benderfynon ni beidio dilyn y cyfeiriad hynny – ro'dd mam yn gytid... mae hi'n ddawnswraig llinell brwdfrydig.
"Ro'dd hi mor falch achos fydden i yn rhoi'r caneuon iddi hi cyn unrhyw un arall, a fydden i yn dangos y rwtîn dawns iddi. Yn arbennig i Mam. A byddai hi yn dysgu'r dosbarth a byddai pawb yn ei wybod cyn iddo fe fod ar Top of the Pops."
Mae Mam H yn cael rhai o'r seddi gorau yn y Parc a'r Dâr i wylio Carys a H yn perfformio gyda disgyblion Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn yn y Porth a'r band enwog, Band Pres Llareggub.
Mam sydd yn cael y gair olaf:
"Paid dechrau fi! Balch ofnadwy – achos mae e wedi dod adref i'r Parc a'r Dâr, dyma ei wreiddiau... i ddod adref ac yn enwedig i ganu yn Gymraeg, mae hyn wedi dod â deigryn i'r llygad."