S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

2 Awst 2024

Mae Bwrdd Unedol S4C wedi dechrau ar y broses o recriwtio Prif Weithredwr nesaf y sianel drwy benodi'r penhelwyr Odgers Berndtson.

Mi fydd aelodau anweithredol Bwrdd Unedol S4C - sy'n gyfrifol am benodi'r Prif Weithredwr – yn cyd-weithio gydag Odgers Berndtson dros yr wythnosau nesaf i roi proses addas a thrylwyr yn ei le, gyda'r bwriad o hysbysebu'r rôl fis Medi.

Y Prif Weithredwr yw llysgennad S4C gyda phrif gyfrifoldeb am holl weithgareddau'r sianel. Mi fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn goruchwylio ac yn rheoli holl agweddau golygyddol, ariannol, strategol ac adnoddau dynol y cwmni, yn sylfaenol gyfrifol am gyfeiriad strategol S4C yn ogystal â chreu'r weledigaeth am ei llwyddiant.

Meddai Guto Bebb, Cadeirydd dros dro S4C:

"Mae llwyddiannau cynnwys a chyrhaeddiad S4C dros y flwyddyn ddiwethaf yn dangos ein bod ni ar y trywydd iawn, ond mae llawer o waith o'n blaenau, yn cynnwys yr heriau digidol sy'n wynebu'r sector i gyd.

"Dyma felly gyfle gwych i ni recriwtio rhywun uchelgeisiol i arwain S4C i'n pennod nesaf; rhywun sy'n rhannu ein gweledigaeth, ein gwerthoedd ac sy'n barod i weithio gyda'r Bwrdd, staff S4C a'r sector i ddod a'r weledigaeth yna'n fyw.

"Yn y cyfamser, estynnwn ddiolch mawr i Sioned Wiliam am ei gwaith fel Prif Weithredwr dros dro dros y misoedd diwethaf, ac yn enwedig am arwain y gwaith o gyflawni'r Cynllun Gweithredu gyhoeddwyd ym mis Chwefror. Mi fydd Sioned yn parhau yn ei swydd tan i'r Prif Weithredwr newydd ddechrau."

Cafodd Odgers Berndtson eu dewis fel pehnelwyr wedi proses dendr fanwl. Mae gan y cwmni arbenigedd yn y Gymraeg aphrofiad helaeth o benodi ar y lefel uchaf yng Nghymru a thu hwnt, yn cynnwys ar ran Undeb Rygbi Cymru yn ogystal â'r BBC ac ITV ar lefel y DU.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?