S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

2 Awst 2024

Yn ôl ymrwymiad y sianel i wrando ar ei chynulleidfa a bod yn S4C i bawb, bydd cyfle i'r cyhoedd holi penaethiaid a rhai o gomisiynwyr S4C mewn sesiwn holi ac ateb yn yr Eisteddfod Genedlaethol eleni.

Ar ddydd Mercher, 7 Awst am 15:30 ar stondin S4C ar faes Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd, bydd y cyflwynydd Dylan Ebenezer yn cynnal sesiwn holi ac ateb gyda Phrif Weithredwr Dros Dro S4C, Sioned Wiliam, y Prif Swyddog Cynnwys, Geraint Evans ynghyd â rhai o Gomisiynwyr S4C.

Mae'r digwyddiad yn rhan o wythnos lawn o weithgareddau sydd wedi'u trefnu ar gyfer stondin S4C.

Dydd Llun, 5 Awst am 14:00 bydd modd cael cipolwg egsliwsif ar y gyfres ddrama ddirgel newydd Cleddau fydd ymlaen ar S4C yn yr Hydref. Wedi'i lleoli yn Noc Penfro, mae'r gyfres yn cyfuno dirgelwch llofruddiaeth afaelgar â stori garu drydanol.

Bydd Lorna Prichard yn cynnal sesiwn cwestiwn ac ateb gydag aelodau o'r cast gan gynnwys Rhian Blythe a Catherine Tregenna.

Cyfrinachau'r Llyfrgell fydd yn cael eu rhannu ar ddydd Mawrth, 6 Awst am 14:30, wrth i Dot Davies, Tudur Owen, Llinos Wynne (Pennaeth Dogfennau a Ffeithiol Arbennig S4C) a Rhian Gibson (Cyfarwyddwr Cyfathrebu, Ymgysylltu a Phartneriaethau Llyfrgell Genedlaethol Cymru) drafod y profiad o agor drysau'r Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth led y pen mewn cyfres newydd i'w darlledu ar S4C ym mis Medi.

Gyda'r opera sebon boblogaidd Pobol y Cwm yn dathlu hanner can mlwyddiant eleni, bydd dau ddigwyddiad i nodi'r achlysur ar faes yr Eisteddfod. Ar ddydd Llun 5 Awst am hanner dydd bydd Cwis Bob Dydd Pobol y Cwm yn fyw o stondin S4C, lle bydd dau dîm o sêr Cwmderi'n cystadlu'n erbyn ei gilydd mewn cwis arbennig am Pobol y Cwm ddoe a heddiw.

Ar ddydd Mercher, 7 Awst am 14.30 bydd trafodaeth arbennig am y gyfres ar stondin Llywodraeth Genedlaethol Cymru. Dan arweinyddiaeth Yr Athro Jamie Medhurst, bydd rhai o gast Pobol y Cwm – Elisabeth Miles, Emyr Wyn a Lauren Phillips yn cnoi cil ar hanes y gyfres eiconig.

I ddathlu llwyddiant ein dysgwyr, bydd digwyddiad O Iaith ar Daith i un o brif Hyfforddwyr Y Llais, yn cael ei gynnal ar ddydd Iau 8 Awst am 14:20 ym Maes D gyda'r cyflwynydd a'r artist Aleighcia Scott. Mi fydd hi'n trafod ei thaith i ddysgu Cymraeg ar S4C gyda'r actor a'i chydymaith ar y rhaglen, Mali Ann Rees.

I'r ffans rygbi, am 15:00 ar y dydd Iau, ym mhabell S4C, bydd cyfle arbennig i gwrdd â Ken Owens, wrth i Catrin Heledd holi Ken (Y Sheriff) am ei yrfa rygbi ddisglair.

Cynhelir llwyth o ddigwyddiadau eraill yn ddyddiol ym mhabell S4C, gan gynnwys sesiwn acwstig gydag Yws Gwynedd, disgo distaw, sesiynau i blant, rhaglen wrando S4C, canu carioci, cadair Y Llais a dangosiadau amrywiol yn y sinema, gan gynnwys prif seremonïau'r dydd.

Bydd y plant hŷn yn cael modd i fyw yng nghwmni criw Stwnsh fydd yn cynnal amryw o weithgareddau a gemau ar hyd y Maes ac yn stondin S4C, a bydd rhai o hoff gymeriadau Cyw yn swyno'r plant lleiaf yn y sioeau Cyw a gweithgareddau o gwmpas y Maes.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?