S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

9 Awst 2024

Ddydd Sadwrn 10 Awst ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, bydd S4C yn cyflwyno cast y gyfres newydd o Deian a Loli, un o'r rhaglenni mwyaf poblogaidd i blant Cymru.

Bydd digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal yn safle S4C am 14:00, lle bydd modd i ffans gwrdd â'r pedwar mewn sesiwn holi ac ateb a chymryd rhan mewn cwis am y gyfres. Fe fydd hefyd cyfle i dynnu llun gyda'r criw.

Dau actor ifanc o Ynys Môn sydd wedi llwyddo i gipio rhannau Deian a Loli.

Fe lwyddodd Magi John Jones o Landegfan, sy'n 9 oed, a Brychan Aled Llewelyn Davies sy'n 10 oed o Rostrehwfa, Llangefni i ddod i'r brig wedi i dros 400 o ddarpar actorion ifanc gael eu clyweld ar gyfer chwarae'r efeilliaid direidus â phwerau hudol.

Maen nhw'n cymryd yr awenau oddi wrth Lowri Llewelyn a Moi Williams, sy'n gadael y rhaglen ar ôl tyfu'n rhy hen i'r cymeriadau.

Aled Pugh a Lily Beau fydd yn chwarae rhan rhieni'r efeilliaid, yn cymryd lle Fflur Medi Owen a Siôn Eifion.

Hon yw'r bumed gyfres, a'r pumed teulu i ymddangos yn y rhaglen.

Bydd y pedwarawd newydd i'w gweld ar y sgrin am y tro cyntaf pan fydd y gyfres newydd yn dechrau yn y flwyddyn newydd.

Meddai Magi:

"Dwi'n andros o hapus, ac yn teimlo'n lwcus iawn i gael chwarae rhan Loli. Tydw i heb wneud llawer o actio cyn hyn, er, o'n i'n ecstra ar Rownd a Rownd pan o'n i'n fabi.

"Nes i wisgo fel Loli ar gyfer Diwrnod y Llyfr yn yr ysgol pan o'n i'n ryw dair neu bedair oed, felly alla i ddim coelio 'mod i'n cael bod yn Loli go iawn rŵan."

Meddai Brychan:

"Roedd o'n deimlad gwych i gael fy newis i'r rhan. Bob tro ro'n i mynd drwadd ym mhob rownd, roedd o'n fwy a mwy cyffrous. Ro'n i'n nerfus achos bod 'na lot o actorion da yno. Dwi'n teimlo'n andros o lwcus.

"Dwi'n edrych ymlaen i weld fy mrawd bach a fy nghefnder a chyfneitherod bach yn fy ngwylio fi ar y teledu achos maen nhw wrth eu boddau hefo Deian a Loli."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?