S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Oriau gwylio wythnosol uchaf i S4C ers pymtheg mlynedd - diolch i raglenni’r Eisteddfod Genedlaethol

20 Awst 2024

Mae S4C wedi gweld twf sylweddol yn nifer yr oriau gwylio a chyrhaeddiad y sianel dros wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol eleni (7 – 13 Awst) gyda ffigurau gwylio dros deirgwaith lefel wythnos arferol ar S4C.

Mae cynulleidfaoedd o bob oed wedi ymateb i'r rhaglenni ac roedd lefel y gwerthfawrogiad i'r holl gynnwys yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd ar ei uchaf ers pum mlynedd ar draws platfformau'r sianel.

Cyrhaeddiad holl raglenni'r Eisteddfod ar deledu eleni oedd 291,000 yng Nghymru - 17% yn uwch nag yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd 2023 - a 333,000 ar draws y Deyrnas Unedig.

Roedd holl oriau gwylio S4C yn ystod wythnos yr Eisteddfod dros 2 miliwn, sy'n uwch nag unrhyw wythnos ar S4C ers 15 mlynedd, ac roedd yr oriau gwylio ymhlith rhai 16-44 oed hefyd ar eu uchaf ers pymtheg mlynedd.

Fe gafodd ap Newyddion S4C hefyd y nifer mwyaf erioed o ymweliadau dros wythnos yr Eisteddfod gyda chynnydd o 40% o'i gymharu â'r un wythnos llynedd.

Ar gyfyngau cymdeithasol S4C - Instagram, Facebook, Tiktok, X, ac YouTube – roedd cynnydd sylweddol mewn sesiynau gwylio ac ymgysylltu o'i gymharu ag Eisteddfod Genedlaethol 2023. Cafodd cynnwys S4C o'r Eisteddfod Genedlaethol ei wylio 2.8 miliwn o weithiau ar draws y platfformau digidol.

Roedd tri chlip yn enwedig wedi cael cyrhaeddiad arbennig; "A oes Heddwch?" 12345678 Dom a Lloyd a chlip o Dafydd Iwan yn trafod yr iaith Gymraeg ar benwythnos cyntaf yr Eisteddfod.

Eleni, am y tro cyntaf bu S4C yn darlledu'n fyw o lwyfan Maes yr Eisteddfod Genedlaethol ar nos Sadwrn olaf yr Ŵyl – yn ogystal â darlledu holl gyffro'r Brifwyl yn Rhondda Cynon Taf drwy gydol yr wythnos.

BBC Cymru a Rondo sy'n cynhyrchu rhaglenni o'r Eisteddfod ar gyfer S4C.

Wrth ymateb i'r ffigurau gwylio, meddai Sioned Wiliam, Prif Weithredwr Dros Dro S4C;

"Roedd yr Eisteddfod eleni yn brofiad arbennig i unrhyw un fu yno, ac mae'n dda i weld bod ein cynnwys wedi cael ei fwynhau a'i werthfawrogi gan gymaint o bobl. Roedd yr arlwy dyddiol a chynhwysfawr gan BBC Cymru yn llwyddo i ddod â blas o Bontypridd i chi ble bynnag fyddech yn dymuno ei wylio, a'r cynnwys ar gyfryngau cymdeithasol yn dod a hwyl y maes a'r llwyfannau i gynulleidfaoedd newydd amrywiol. Mae'r ffigyrau yma yn glod i'n partneriaid cynhyrchu i gyd am eu hegni a'u creadigrwydd."

Nodiadau i Olygyddion

Mae ystadegau calonogol eraill y sianel yn dilyn yr Eisteddfod yn cynnwys;

Roedd cynulleidfaoedd rhaglenni'r pnawn o'r Eisteddfod 55% yn uwch na'r llynedd

Roedd cynulleidfaoedd rhaglenni'r bore o'r Eisteddfod 15% yn uwch na'r llynedd

Gwyliodd dros 50,000 o wylwyr raglenni'r sianel ar y nos Fawrth a'r nos Iau

Cafwyd y nifer fwyaf erioed o ymweliadau ap Newyddion S4C; dros 80,000, cynnydd o 40%

Bu dros 200,000 o sesiynau gwylio rhaglenni'r Eisteddfod ar S4C Clic ac iPlayer; 22% yn uwch na llynedd

A bu cynnydd o 27% yn niferoedd y sesiynau gwylio o'r ffrwd fyw Sedd yn y Pafiliwn

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?