S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gemau rygbi Cyfres yr Hydref ar S4C

21 Awst 2024

Bydd S4C yn darlledu gemau rygbi dynion Cymru yng Nghyfres yr Hydref, a hynny am y ddwy flynedd nesaf.

Gwylio S4C fydd yr unig ffordd i weld y gemau yma yn Gymraeg am ddim. A hynny ar deledu, S4C Clic a BBC iPlayer.

Fiji fydd gwrthwynebwyr cyntaf Cymru ar 10 Tachwedd, cyn i Gymru groesawu Awstralia ar ddydd Sul 17 Tachwedd. Yr her olaf i dîm Warren Gatland fydd yn erbyn Pencampwyr Cwpan Rygbi'r Byd 2023, De Affrica, a hynny ar ddydd Sadwrn 23 Tachwedd. Bydd tair gêm Cymru yng Nghyfres yr Hydref yn cael eu chwarae yn Stadiwm Principality.

Mae gemau'r Hydref yn dilyn Cyfres yr Haf siomedig i Gymru, ar ôl colli i Dde Affrica yn Twickenham a dwywaith yn erbyn Awstralia.

Bydd Cymru yn gobeithio gallu taro nôl yn erbyn dau o dimau gorau'r byd ym mis Tachwedd eleni cyn cychwyn y Chwe Gwlad yn 2025.

Meddai Graham Davies, Pennaeth Chwaraeon S4C:

"Mae'n wych gallu cyhoeddi y bydd Gemau'r Hydref tîm dynion Cymru yn fyw ar S4C am y ddwy flynedd nesaf, gan ddangos mai S4C yw Cartref Chwaraeon Cymru.

"Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw rygbi Cymru, a'r gemau rhyngwladol, i'n cynulleidfaoedd, ac rydym yn falch o fod yn gweithio mewn partneriaeth â Warner Bros. Discovery.

"Rydym yn ddiolchgar i gael y cyfle i gynnig y gemau yma am ddim, yn Gymraeg, ar S4C."

Meddai Trojan Paillot, Uwch Is-Lywydd Caffaeliadau a Syndicetiau Hawliau Chwaraeon yn Warner Bros. Discovery Sports Europe:

"Am y tro cyntaf, bydd TNT Sports yn dangos pob un o'r 21 gêm yng Nghyfres yr Hydref yn fyw ar eu llwyfannau fis Tachwedd eleni, sydd, ynghyd â darlledu pob gêm o Uwch Gynghrair Gallagher, yn sicrhau ein bod yn parhau i fod yn gyrchfan i gefnogwyr rygbi sydd am wylio'r gemau mwyaf cyffrous sydd gan rygbi byd-eang i'w cynnig.

"Mae cyd-ddarlledu gemau tîm cenedlaethol Cymru yn erbyn Fiji, Awstralia a De Affrica ochr yn ochr â phartner rhagorol fel S4C yn cyd-fynd â'n huchelgais i sicrhau bod y dair gêm rhyngwladol hynny ar gael mor eang â phosibl i wylwyr yng Nghymru."

Bydd S4C yn darlledu Cyfres yr Hydref yn Gymraeg. Bydd TNT Sports a discovery+ yn darlledu'r gemau â sylwebaeth Saesneg.

Rygbi: Cyfres yr Hydref

Cymru v Ffiji - dydd Sul, 10 Tachwedd, 13.40

Cymru v Awstralia - dydd Sul, 17 Tachwedd, 16.10

Cymru v De Affrica - dydd Sadwrn, 23 Tachwedd, 17.40

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?