S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

5 Medi 2024

Mae S4C wedi derbyn 20 o enwebiadau yn restr fer gwobrau BAFTA Cymru 2024 a gyhoeddwyd heddiw (Iau 5 Medi).

Mae pum enwebiad i'r gyfres ddrama-gomedi Pren ar y Bryn (Fiction Factory), gan gynnwys i'r ddau brif actor; Rhodri Meilir a Nia Roberts (categori Actor ac Actores) ac yn y categori Drama Deledu.

Mae'r rhaglen ddogfen Siân Phillips yn 90 (Rondo Media) wedi cael tri enwebiad, gan gynnwys i'r cyfarwyddwr Caryl Ebenezer (Cyfarwyddwr: Ffeithiol) ac yn y categori Rhaglen Ddogfen Sengl.

Sian Phillips

Mae dau enwebiad yr un i'r rhaglenni canlynol; y gyfres ddrama Bariau (Rondo Media) – un i Annes Elwy (Actores) ac un i'r cynhyrchydd Alaw Llewelyn Roberts (categori Torri Trwodd Cymru); y gyfres Siwrna Scandi Chris (Cwmni Da), i Chris Roberts (Cyflwynydd) ac yn y categori Cyfres Ffeithiol; a'r rhaglen ddogfen Paid â Dweud Hoyw (Rondo Media); i Stifyn Parri (Cyflwynydd) ac yn y categori Rhaglen Ddogfen Sengl.

Mae gan S4C ddau enwebiad yr un yn y categorïau Rhaglen Blant; Newyddion Ni (BBC Cymru) a Sêr Steilio (Yeti Television) a Rhaglen Adloniant; Cân i Gymru 2024 (Afanti Media) a Iaith ar Daith (Welsh on the Road) (Boom Cymru).

Enwebir Y Frwydr: Stori Anabledd (Cardiff Productions) yn y categori Cyfres Ffeithiol.

Dywedodd Geraint Evans, Prif Swyddog Cynnwys Dros Dro S4C:

"Llongyfarchiadau mawr i bawb gafodd eu henwebu eleni ar gyfer gwobr BAFTA Cymru 2024.

"Mae llwyddiant cynnwys S4C yn dangos gwerth a doniau'r sector yng Nghymru ac rydyn ni'n hynod falch o'r holl gynnwys sydd wedi cael enwebiadau.

"Edrychwn ymlaen yn fawr at y seremoni wobrwyo fis nesaf a dymunwn bob lwc i bawb."

Mi fydd modd gwylio holl raglenni S4C gafodd eu henwebu ar gyfer gwobrau BAFTA Cymru ar S4C Clic yn fuan.

Bydd seremoni wobrwyo BAFTA Cymru yn cael ei chynnal ar 20 Hydref yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru yng Nghasnewydd.

Nodiadau i Olygyddion

Dyma'r holl enwebiadau i raglenni S4C:

ACTOR

RHODRI MEILIR Pren ar y Bryn - Fiction Factory / S4C

ACTORES

ANNES ELWY Bariau - Rondo Media / S4C

NIA ROBERTS Pren ar y Bryn - Fiction Factory / S4C

TORRI TRWODD CYMRU

ALAW LLEWELYN ROBERTS Bariau - Rondo Media / S4C

RHAGLEN BLANT

NEWYDDION NI - BBC Cymru / S4C

SER STEILIO - Yeti Television / S4C

DYLUNIO GWISGOEDD

FFION ELINOR Pren ar y Bryn - Fiction Factory Films / S4C

CYFARWYDDWR: FFEITHIOL

CARYL EBENEZER Siân Phillips yn 90 - Rondo Media / S4C

RHAGLEN ADLONIANT

CÂN I GYMRU 2024 - Afanti Media / S4C

IAITH AR DAITH - Boom Cymru / S4C

CYFRES FFEITHIOL

SIWRNA SCANDI CHRIS - Cwmni Da / S4C

Y FRWYDR: STORI ANABLEDD - Cardiff Productions / S4C

COLUR A GWALLT

JAMES SPINKS Y Sŵn - Swnllyd

FFOTOGRAFFIAETH: FFEITHIOL

HAYDN DENMAN Siân Phillips yn 90 - Rondo Media / S4C

CYFLWYNYDD

CHRIS ROBERTS Siwrna Scandi Chris - Cwmni Da / S4C

STIFYN PARRI Paid â Dweud Hoyw - Rondo Media / S4C

DYLUNIO CYNHYRCHIAD

GERWYN LLOYD Pren ar y Bryn - Fiction Factory Films / S4C

RHAGLEN DDOGFEN SENGL

PAID Â DWEUD HOYW - Rondo Media / S4C

SIÂN PHILLIPS YN 90 - Rondo Media / S4C

DRAMA DELEDU

PREN AR Y BRYN - Fiction Factory Films / S4C

Mae'r rhestr lawn o enwebiadau i'w chael yma:www.bafta.org/cy/television/news/gwobrau-bafta-cymru-2024-yr-enwebiadau

Stifyn Parri - cyflwynydd Paid â Dweud Hoyw

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?