S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

17 Medi 2024

Roedd cyflwyno cyfres newydd S4C Cyfrinachau'r Llyfrgell yn "un o bleserau mwyaf fy ngyrfa" esbonia'r cyflwynydd teledu a radio, Dot Davies. Dywedodd: "Gobeithio y bydd hi'n rhaglen y gall Cymru gyfan ymfalchïo ynddi; mae'n emosiynol, cadarnhaol, addysgiadol a gwladgarol hefyd."

Mewn adolygiad gan Lywodraeth Cymru yn 2020, cafodd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth ei galw'n 'gyfrinach orau Cymru'.

Ers hynny mae'r Llyfrgell Genedlaethol wedi gweithio ar godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a chynyddu hygyrchedd at gasgliadau a gwaith y sefydliad er mwyn annog mwy o bobl i ymgysylltu ac ymweld â'r trysorfa hon ar ben bryn Penglais yn Aberystwyth.

Dot Davies a Tudur Owen

Pedwar o bersonoliaethau adnabyddus Cymru - y darlledwr a'r digrifwr Tudur Owen; cantores, cyfansoddwraig a darlledwr Cerys Matthews; y naturiaethwr Iolo Williams a'r newyddiadurwr Maxine Hughes – fydd yn ymddangos yn y gyfres newydd hon sy'n dechrau ar 17 Medi am 9pm ar S4C.

Bydd y pedwar yn darganfod straeon twym galon ac, ar adegau, rhai torcalonnus o'r gorffennol.

Mae'r Llyfrgell ei hun yn chwarae rhan hanfodol yn y gyfres ac mae'n gymeriad cadarn ynddi.

Meddai Rhian Gibson, Cyfarwyddwr Cyfathrebu'r Llyfrgell Genedlaethol:

"Fy rôl i yw agor y Llyfrgell a'i gwneud yn berthnasol i Gymru a thu hwnt. Mae cyrff cyhoeddus fel ni yn mynd trwy gyfnod anodd iawn ar hyn o bryd gyda thoriadau i gyllid ac ati ond ry'n ni'n ymateb yn bositif.

"Mae'r gyfres hon yn dangos bod rhywbeth yn y Llyfrgell i bawb a bod treftadaeth a diwylliant yn berthnasol i Gymru gyfan.

"Mae 'na deimlad positif ymysg y staff am y Llyfrgell - ry'n ni gyd wrth ein boddau gyda'r Llyfrgell, ac rydym yn gobeithio y bydd pob un fydd yn gwylio'r gyfres hefyd yn cwympo mewn cariad â hi ac yn sylweddoli ei pherthnasedd i ni gyd.

"Ry'n ni'n gobeithio y bydd yn sbardun i bobl ymweld â'r Llyfrgell yn Aberystwyth neu ar-lein."

Maxine Hughes

Dywed y cyflwynydd Dot Davies:

"Mae cyflwyno Cyfrinachau'r Llyfrgell yn un o'r profiadau gorau i mi ei gael erioed. Y Llyfrgell Genedlaethol yw'r brif seren. Fel merch o Geredigion roedd hyn ar fy stepen drws, ond doeddwn i ddim yn gwerthfawrogi'r hyn oedd gennym ni. Mae'r gyfres hon wedi newid hynny."

Cymeriad allweddol arall yn y gyfres yw curadur y Llyfrgell, Dr Maredudd ap Huw. Mae'n taflu goleuni ar gwestiynau'r sêr, ac mae'n ffynnon o wybodaeth a hanesion iddyn nhw. Dywed Dot am Dr Maredudd:

"Mae'n legend. Doedd Cerys [Matthews] ddim yn gallu cael digon ohono. Gallai hyd yn oed ddysgu rhywbeth am adar i Iolo Williams! Roedd ganddo hefyd ymdeimlad o showbiz o'i gwmpas - gan wybod pryd i gyflwyno gwybodaeth annisgwyl."

Mae Tudur Owen yn cymharu'r Llyfrgell â chwpwrdd drysor:

"Alla i ddim aros i ddod yn ôl. Mae fel cwpwrdd arbennig sydd gan bob teulu lle 'da ni'n cadw ein trysorau mwyaf gwerthfawr. Dyna beth yw'r Llyfrgell, ond ar gyfer y wlad."

Mae tymor cyntaf y gyfres yn dechrau ar 17 Medi am 9pm, ac mae'r ail gyfres eisoes mewn cyn-gynhyrchiad. Bydd y fformat yn cael ei dosbarthu'n rhyngwladol gan ITV Studios.

Iolo Williams a Dr Maredudd ap Huw

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?