S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

20 Hydref 2024

Wedi i raglenni S4C gael eu henwebu ar gyfer 20 gwobr BAFTA, llwyddodd rhaglenni o fewn categorïau drama, plant a ffeithiol i ennill yn ystod y seremoni heno.

Owain Wyn Evans oedd yn cyflwyno'r seremoni yng Nghanolfan Gynadledda Ryngwladol Cymru (ICC Cymru) yng Nghasnewydd ar 20 Hydref, 2024.

Roedd y noson wobrwyo yn ddathliad o dalent ar draws ffilm a theledu yng Nghymru.

Annes Elwy enillodd yng nghategori yr actores orau am ei rhan fel y warden carchar, Elin James, yn nrama S4C Bariau (Rondo Media).

Ymhlith yr enillwyr eraill oedd Sêr Steilio (Yeti Television) yng nghategori rhaglenni plant; Gerwyn Lloyd wnaeth ennill yn nghategori dylunio cynhyrchiad am y ddrama Pren ar y Bryn (Fiction Factory); enillodd James Spinks am ei waith colur a gwallt ar y ffilm Y Sŵn (Swnllyd); aeth gwobr BAFTA am y gyfres ffeithiol orau i Y Frwydr: Stori Anabledd (Cardiff Productions).

Meddai Sioned Wiliam, prif weithredwr dros dro S4C:

"Mae arlwy S4C wedi bod yn arbennig dros y blynyddoedd diweddar a dwi'n falch iawn o'n cynnwys.

"Mae'r ffaith bod BAFTA wedi cydnabod nifer o raglenni S4C drwy eu henwebu a'u gwobrwyo mewn seremoni arbennig yn destament i holl waith caled y cwmnïau cynhyrchu, y talent penigamp sydd gyda ni yn Gymraeg, ein partneriaid ac i holl staff S4C.

"Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi gweithio ar drawsdoriad eang a gwych iawn o raglenni, gan longyfarch yn gynnes i'r rheiny bu'n ddigon ffodus i ennill gwobr heno a'r rheiny gafodd eu henwebu."

Hoffai S4C hefyd longyfarch yr actor Mark Lewis Jones ar dderbyn gwobr arbennig Sian Phillips, gwobr sy'n cael ei gyflwyno i unigolyn o Gymru sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol at fyd ffilm a/neu'r teledu. Mae Mark wedi bod yn wyneb cyfarwydd ar nifer o brif ddramâu S4C gan gynnwys Dal y Mellt; Un Bore Mercher a ffilm Y Sŵn.

Mae'r holl raglenni gafodd eu enwebu ar gyfer gwobr BAFTA i'w gweld ar S4C Clic.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?