21 Hydref 2024
Am y tro cyntaf erioed, bydd hanes gyfoethog ond anghyfarwydd pêl-droed menywod yng Nghymru i'w gweld mewn rhaglen deledu arbennig.
Mae Yr Hawl i Chwarae, fydd ar blatfformau S4C am 9.00pm ar nos Fawrth 22 Hydref, yn adrodd sut y cafodd menywod Cymru eu gwahardd rhag chware pêl-droed am dros hanner canrif ac yn siarad â nifer gafodd eu heffeithio a'r rheiny fu'n brwydro am gydnabyddiaeth.
Yn y rhaglen mae rhai o ffigyrau amlycaf y gêm yn egluro'r ymdrech enfawr i lobïo'r Gymdeithas Bêl-droed am newid – Michelle Adams (Cymru 1973-1994), Karen Jones (Cymru 1976-1996) a Dirprwy Gadeirydd Pwyllgor Pêl-droed Merched UEFA, Yr Athro Laura McAllister (Cymru 1994-2001).
Cafodd y gwaharddiad effaith andwyol ar y gêm i fenywod yng Nghymru – hyn yn oed flynyddoedd wedi iddo gael ei godi. Yn y rhaglen mae seren tîm Cymru, Jess Fishlock, yn cyfaddef iddi deimlo bod rhaid symud o Gymru i ddilyn ei breuddwydion o chwarae:
"Nes i syrthio mewn cariad â'r gêm gan obeithio ar ryw adeg y byddai yna gynghrair neu dîm y gallwn i chwarae ynddo – ond y gwir oedd bod rhaid i mi adael oherwydd doedd dim byd yng Nghymru a fyddai wedi caniatáu i mi gael yr hyn ges i ar ôl gadael."
Jess Fishlock yw'r chwaraewr cyntaf yn hanes Cymru i ennill 150 o gapiau ac mae hi wedi torri'r record am y niferoedd o goliau i Gymru. Mae'n bwysig iawn iddi bod yr hanes yma yn cael ei adrodd a'i gofio:
"Mae'n rhaid deall yr hanes oherwydd mae'n helpu chi i ddeall pam mae rhai pethau fel y maen nhw...mae'n rhaid i ni barhau i ymladd. Dwi'n teimlo fel fy mod i wedi dweud hynny trwy gydol fy ngyrfa gyda Cymru. Dwi wedi chwarae i Gymru ers dros 15 mlynedd a dal i frwydro am y newid."
Trwy glipiau archif a straeon personol, mae stori Yr Hawl i Chware yn ymestyn dros ddegawdau - o'r gwaharddiad hanner canrif hyd at y tîm cenedlaethol yn dod yn rhan swyddogol o Gymdeithas Bêl-droed Cymru ym 1992 a llwyddiant y blynyddoedd diweddar.
Mae'r rhaglen, sy'n cael ei chyflwyno gan Ffion Eluned Owen, yn talu teyrnged i'r rhai fu'n allweddol wrth frwydro am yr hawl i ferched a menywod chwarae'r gêm ac hefyd yn siarad a'r rhai sy'n allweddol i lwyddiant y gêm heddiw - Rheolwr Tîm Cymru Rhian Wilkinson, y chwaraewr amryddawn Jess Fishlock a'r ddwy chwaer o Drawsfynydd Mared Griffiths (Cymru a Manchester United) a Cadi Griffiths (Cymru dan 15).
Yn 2022, roedd Cymru bron â chyrraedd cystadleuaeth Cwpan y Byd gyda 15,000 o gefnogwyr wedi dod i'r stadiwm i wylio'r gêm yn erbyn Bosnia.
Ond uchafbwynt y rhaglen yw'r dathliad arbennig ym mis Hydref pan gafodd capiau swyddogol eu cyflwyno o'r diwedd i'r holl fenywod wnaeth chwarae pêl-droed dros Gymru rhwng 1973 ac 1992. Yn y cyfnod yma, chwaraeodd 94 o fenywod dros Gymru, ond chafodd yr un ohonyn nhw gap am nad oedd y tîm dan ofal Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
Dywedodd y sylwebydd a'r cyn-chwaraewr Gwennan Harries:
"Roedd rhwystrau pan o'n i'n chwarae ond ddim hanner gymaint o gymharu gyda rhain felly mae'n hyfryd i weld nhw'n cael eu dathlu ond cael y cydnabyddiaeth hynny maen nhw'n llawn haeddu."
Wrth dderbyn ei chap wedi degawdau o aros, dywedodd Shelley Walters, cyn-chwaraer Cymru rhwng 1975-82:
"Dwi wedi gwirioni - ar ôl 49 mlynedd mae o yma a does neb yn gallu ei gymryd i ffwrdd nawr. Alla'i ddweud nawr fy mod i'n cael fy nghydnabod fel chwaraewr rhyngwladol cyflawn gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru. Er ei fod wedi cymryd sbel i ddod, roedd o werth yr aros."
Yr Hawl i Chwarae
Nos Fawrth, 22 Hydref 21.00
Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill
Cynhyrchiad Whisper Films ar gyfer S4C