S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

25 Hydref 2024

Bydd S4C yn darlledu amrywiaeth o raglenni dros yr wythnosau nesaf i roi blas o fwrlwm Etholiad Arlywyddol yr Unol Daleithau 2024, cyn i'r canlyniadau llawn gael eu cyhoeddi'n fyw mewn rhifyn arbennig o raglen Newyddion S4C nos Fercher 6 Tachwedd.

Carfan o'r gymdeithas sydd â dylanwad enfawr yn America - gan gynnwys ei ddyfodol gwleidyddol - yw Cristnogion Efengylaidd. Gyda 600 miliwn o'i phobl yn ei ddilyn, mae eu niferoedd yn cynyddu o hyd.

Bydd y newyddiadurwr Maxine Hughes yn mentro i fyd Efengylwyr America yn Efengylwyr…Oes Atgyfodiad? ar 3 Tachwedd. Bydd hi'n ceisio canfod beth yw cyfrinach eu dylanwad a'u grym dros y miloedd sy'n troi atynt, a dros y llywodraeth ei hun – rhywbeth mae Maxine ei hun yn cyfaddef sy'n 'eithaf brawychus'.

Bydd rhaglen arbennig o Y Byd ar Bedwar ar 28 Hydref yn teithio i'r Unol Daleithiau ar drothwy'r etholiad. Gyda disgwyl i'r ras fod yn hanesyddol o agos, bydd Siôn Jenkins yn ymweld â'r taleithiau allweddol gan sicrhau mynediad arbennig i ddigwyddiad Kamala Harris yn Arizona a chlywed barn ffyddloniaid Donald Trump yn ei rali yn Pennsylvania. O erthyliad i'r economi a mewnfudo - pa ymgeisydd sy'n mynd i ddwyn perswâd ar bobl America ac ennill y ras i'r Tŷ Gwyn?

Mae hefyd cyfle arall i wylio rhaglen Trump: Byd Eithafol ar S4C Clic a BBC iPlayer, lle mae Maxine Hughes yn dilyn rhai o gefnogwyr mwyaf ffyddlon Donald Trump, ac yn holi'r dyn ei hun.

Yn ystod y dyddiau yn arwain at yr etholiad, bydd newyddiadurwryr rhaglen Newyddion S4C ar daith drwy rhai o'r taleithiau i ddod â blas o'r ymgyrchu munud olaf. Byddan nhw hefyd yn siarad gyda nifer o Gymry America, ac yn dadansoddi beth fydd yr etholiad yn ei olygu i weddill y byd.

Ar amser tyngedfennol y cyfri, bydd rhifyn estynedig o Newyddion S4C ar nos Fercher 6 Tachwedd, gyda Bethan Rhys Roberts yn cyflwyno'n fyw o Washington DC a gohebwyr yn dilyn y datblygiadau o Bennsylvania.

Bydd Gwefan ac app Newyddion S4C hefyd â chynnwys arbennig.

Meddai Sharen Griffith, Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes S4C:

"Gyda'r ansefydlogrwydd yn y byd ar hyn o bryd, does dim dwywaith y bydd pwy bynnag fydd yn ennill y swydd mwya' pwerus yn y byd yn cael effaith arnom ni i gyd. Mae'n hynod o bwysig felly bod ein newyddiadurwyr ni'n gallu bod yng nghalon yr ymgyrchu a'r bwrlwm yn America i ddod a'r darlun llawn a'r dadansoddi o lygaid y ffynnon."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?