Mae Hansh yn cyflwyno rhaglen go wahanol ar gyfer Calan Gaeaf eleni ar draws platfformau digidol S4C.
O lwyfan Cabaret, Canolfan y Mileniwm Caerdydd daw sioe Calan Gayaf wedi'i pherfformio gan griw Queens Cŵm Rag - breninesau drag Cymraeg.
Mae'r sioe yn addo merched ffiaidd, lleisiau fampiraidd a breninesau drag mwyaf brawychus drwy gomedi, canu a barddoniaeth. Bydd y sioe i'w gweld ar S4C Clic, iPlayer a sianel You Tube Hansh ac S4C ar nos Calan Gaeaf ar y 31ain.
Rhoddodd Hansh sylw i'r breninesau drag Cymraeg, y Queens Cŵm Rag, mewn rhaglen ddogfen ddwy flynedd yn ôl sydd i'w gweld o hyd ar You Tube o dan yr enw Queens Cŵm Rag.
Bydd y cymeriadau Bopa Rhys, Lasagne Sheets, CeCe, Nessa ac Oberon yn dychwelyd ar gyfer Calan Gayaf ynghyd â nifer eraill o berfformwyr sydd yn cynnwys Ceri Grafu ac Aneurin Heaven.
Mae Hansh yn rhoi llwyfan i bobl ifanc Cymru drwy gomedi a straeon amrywiol a thrwy greu trwbwl. Ar gyfer Calan Gaeaf bydd arlwy arswydus i'w gweld ar S4C Clic sydd hefyd yn cynnwys Cysgu efo Ysbrydion gan Hansh.
Meddai Guto Rhun sydd yn comisiynu rhaglenni ar gyfer Hansh:
"Mae Hansh yno i'n diddanu ac weithiau i godi gwrychyn, gyda thafod yn y boch bob tro – ac mae Calan Gayaf yn chwa o awyr iach, ddrygionus!
"Mae angen i bawb gael profi Queens Cwm Rag – mae'n nhw'n hollol boncyrs a gorjys ar yr un pryd. Ymunwch yn yr hwyl – os da chi'n mentro... Be well ar gyfer nos Calan Gaeaf?"
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?