S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

12 Tachwedd 2024

40 mlynedd ar ôl streic wnaeth drawsnewid cymunedau Cymru, mae'r cyflwynydd Alex Jones yn dychwelyd i'w thref enedigol Rhydaman, er mwyn siarad gyda ffrindiau oedd â rhieni yn sefyll ar y linell biced.

Mae Alex Jones: Plant y Streic yn edrych ar streic y glowyr yn 1984 trwy lygaid y plant – cenhedlaeth Alex. Er nad oedd teulu Alex yn lowyr, roedd teuluoedd fel rhai Alex yn cael eu heffeithio yn ddwfn gan y streic wrth iddyn' nhw dystio poen a dioddefaint ffrindiau a chymdogion, gan eu hannog i gefnogi eraill yn eu cymuned.

Meddai Alex: "Dwi'n cofio mynd ar drip ysgol pan o'n i'n 6 mlwydd oed ac yn meddwl ei bod hi'n rhyfedd bod y tadau i gyd wedi dod â'u plant yn lle y mamau arferol. Wy'n sylweddoli nawr bod hyn achos bod rhaid i'r menywod weithio gan bod y dynion, glowyr i gyd, ar streic."

Roedd Alex yn chwe mlwydd oed pan yn mis Mawrth 1984 fe gyhoeddodd y Bwrdd Glo Cenedlaethol eu bod am gau 20 o byllau glo. Galwodd llywydd yr NUM (Undeb Cenedlaethol y Glowyr) Arthur Scargill am streic cenedlaethol ac o fewn yr wythnos roedd pob un o lowyr Cymru ar streic.

Mae Alex yn siarad gyda'i chyfaill oes, yr actor Aled Pugh, wrth iddo hel atgofion am sut byddai yn mynd i'r ysgol yn fan oren teulu Alex. Roedd Aled yn credu bod hyn yn cŵl ar y pryd heb sylweddoli nad oedden' nhw'n gallu teithio yng nghar ei deulu gan na allan' nhw brynu'r tanwydd. Meddai Aled:

"Dwi'n cofio bod dad ar gael lot fwy er mwyn mynd â ni i'r ysgol.

"Beth oedd wedi synnu fi oedd pa mor garedig a chyfeillgar, oedd ffrindiau, cymdogion a theulu pobl fel teulu Alex – oedd 'na deimlad oedd pawb yn ralio rownd ei gilydd i helpu, doedd e ddim jyst unigolion oedd yn dioddef, oedd y gymuned yn dioddef fel un."

Mae Alex yn mynd ati i gwrdd gydag eraill o wahanol gymunedau ledled De Cymru y mae eu magwraeth yn ystod y cyfnod cythryblus hwn wedi helpu i lunio pwy ydyn nhw nawr.

Mae hi'n cwrdd ag Emma Thompson a'i thad Ceri Thompson sydd bellach yn gweithio fel curadur yng Nghanolfan Treftadaeth y Byd yn Blaenafon, ond a arferai fod yn löwr yng nglofa'r Cwm ger Beddau. Mae'r ddau yn cofio Nadolig 1984 yn dda a'i gofio fel amser pan tynnodd cymunedau at ei gilydd i geisio'i wneud yn Nadolig arbennig.

Er i gau y pyllau a'r streic ddinistrio cymunedau ar hyd Cymru, mae nifer o'r plant yn cofio'r cyfnod fel adeg rhyfedd ond hefyd 'cyffrous'. Mae Emma yn cofio'r Nadolig ag atgofion melys gyda Neuadd Les Beddau yn berwi â digwyddiadau, meddai Emma:

"Dwi'n cofio mynd i'r neuadd a derbyn bag Shakin' Stevens, ges i bag sticeri wrth Arthur Scargill hefyd. Roedd pobl mor hael, byddai rhai hyd yn oed yn rhoi arian trwy ein blwch llythyrau. Roedd cymaint o gefnogaeth yn yr ardal."

Mae Emma Aue o Tairgawith yn mynd yn eithaf emosiynol am ei hatgofion hi o Nadolig 1984, gan ddweud mai hwn oedd y Nadolig orau erioed. Roedd ei thad Terry Pugh, oedd ar streic, wedi adeiladu tŷ doliau iddi, meddai:

"Mas o sefyllfa ofnadwy daeth hwn, roedd e'n cynrychioli y cariad oedd gan fy nhad. O'n i'n gwybod bod dad wedi bod trwy amserau anodd, ond roedd e wedi cymryd ei amser i greu rhywbeth hardd a chofiadwy.

"Mae'n rhywbeth fi wedi codi gydag e a parchu fe, am y da a'r drwg, fi'n ei barchu fe a beth wnaethon nhw i ni."

Mae balchder Alex yn ei chymuned yn nyffryn Aman yn cael ei gryfhau gan y straeon hyn mae'n eu clywed ble roedd ysbryd cymuned ar ei orau.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?