Mae S4C yn falch o gyhoeddi fod Geraint Evans wedi ei benodi yn Brif Weithredwr S4C.
Mae Geraint yn Brif Swyddog Cynnwys Dros Dro S4C, ac yn arwain y tîm comisiynu.
Fe ymunodd â S4C yn 2019 fel Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes. Bu'n gyfrifol am ddatblygu gwasanaeth newyddion digidol S4C, cyn dod yn Gyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi.
Cyn ymuno â'r sianel bu'n newyddiadurwr gyda ITV Cymru am 25 mlynedd, yn Ohebydd ar gyfres materion cyfoes Y Byd ar Bedwar, yna'n Olygydd y Gyfres ac yn Bennaeth Rhaglenni Cymraeg ITV.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf bu Geraint hefyd yn gyd Brif Weithredwr Dros Dro S4C am gyfnod o chwech mis.
Meddai Guto Bebb, Cadeirydd Dros Dro S4C;
"Mae Geraint yn angerddol dros gynhyrchu cynnwys Cymraeg a'r angen i feithrin y sector greadigol sy'n bartner allweddol i S4C. Daw â chyfoeth o brofiad a dealltwriaeth am y diwydiant yma yng Nghymru a thu hwnt i'w swydd newydd. Fel y cyfarwyddwr sydd wedi bod yn arwain ar ddatblygiad digidol y sianel, mae ganddo weledigaeth glir o'r llwybr sydd angen i S4C i'w gymryd os am sicrhau dyfodol llewyrchus. Mae'n arweinydd naturiol all uno staff a rhanddeiliaid wrth i'r sianel gychwyn pennod newydd.
Wedi proses apwyntio allanol drylwyr, a oedd yn cynnwys ymgynghori gyda'r Tîm Rheoli, Staff, a'r Undeb Bectu roedd penderfyniad y Bwrdd yn unfrydol. Rydym oll yn hynod o falch o'r penodiad cyffrous hwn.
Rydym hefyd yn ddiolchgar i Sioned Wiliam am wasanaethu fel Prif Weithredwr Dros Dro yn ystod y misoedd diwethaf. Mae wedi bod yn bleser cyd-weithio gyda hi."
Meddai Geraint Evans;
"Mae wir yn fraint i gael y cyfle i arwain sianel yr wyf wedi gwylio a chynhyrchu cynnwys iddi ar hyd fy ngyrfa. Mae gan S4C rôl allweddol i'w chwarae i alluogi pobl i fyw eu bywydau drwy'r Gymraeg, i ddenu siaradwyr newydd ac i gynnal y Gymraeg fel iaith fyw a pherthnasol. Wrth i'n harferion gwylio newid, mae'n hanfodol bod S4C yn newid - ac yn denu, yn ysbrydoli ac yn diddanu ein cynulleidfaoedd, ar ba bynnag blatfform maen nhw'n dewis gwylio.
Rwy'n edrych mlaen at yr her, gan wybod bod timau talentog a chreadigol yma'n S4C, yn y sector gynhyrchu ac ymhlith ein rhanddeiliaid allanol, sy'n rhannu'r un angerdd a gweledigaeth o gael sianel sy'n gwasanaethu Cymru gyfan."
Bydd Geraint Evans yn dechrau yn ei rôl fel Prif Weithredwr yn Ionawr 2025. Bydd Sioned Wiliam yn parhau fel Prif Weithredwr Dros Dro tan hynny.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?