S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Seiclo Trac: Cynghrair y Pencampwyr i'w gweld ar S4C am y tro cyntaf – gan gynnwys Emma Finucane o Team GB

20 Tachwedd 2024

Bydd y Gymraes Emma Finucane yn cystadlu yng Nghynghrair y Pencampwyr Trac UCI 2024, a fydd yn darlledu ar S4C am y tro cyntaf dydd Sadwrn 23 Tachwedd.

Mae cystadleuaeth seiclo Cynghrair y Pencampwyr Trac UCI yn gystadleuaeth seiclo trac cyflym a nodedig gyda'r reidwyr gorau o bob rhan o'r byd yn cystadlu mewn cyfres o rasys sbrint neu rasys yn seiliedig ar ddygnwch, gyda phwyntiau'n cael eu dyfarnu ar gyfer pob ras.

Mae'r gystadleuaeth yn cynnwys digwyddiadau i ddynion a menywod gyda 18 o reidwyr yn cystadlu ym mhob categori – cyfanswm o 76 o feicwyr.

Y reidwr gyda'r mwyaf o bwyntiau ar ddiwedd y gyfres yn eu categori (dynion neu menywod) sy'n ennill teitl Cynghrair y Pencampwyr Trac UCI 2024. Mae Emma Finucane yn enedigol o Gaerfyrddin ac yn prysur gwneud enw mawr i'w hun ym myd seiclo trac ym Mhrydain. Hi oedd Pencampwr y Byd UCI yn 2023 a 2024 mewn Sbrint Unigol i fenywod. Yng Ngemau'r Olympaidd ym Mharis eleni, enillodd Emma un fedal aur a dwy fedal - y fenyw gyntaf o Brydain i ennill tair medal yn yr un Gemau Olympaidd ers Mary Rand yn 1964.

Mae Cynghrair y Pencampwyr Trac UCI yn cychwyn yn y Vélodrome National de Saint-Quentin-en-Yvelines yn Ffrainc ddydd Sadwrn, 23 Tachwedd.

Y penwythnos canlynol, mae'n cael ei gynnal am y tro cyntaf yn yr Apeldoorn yn yr Iseldiroedd ar 29 a 30 Tachwedd. Bydd y Lee Valley VeloPark yn Llundain yn cynnal y rowndiau terfynol ar 6 a 7 Rhagfyr. Rhodri Gomer fydd yn cyflwyno'r arlwy ar gyfer S4C. Mae Rhodri yn wyneb cyfarwydd i feicio ar y sianel, sy'n adnabyddus am ei wybodaeth eang a'i angerdd am y gamp. Mae'n edrych ymlaen at ddilyn llwyddiant y beicwyr o Gymru:

"Mae gwylwyr S4C yn hen gyfarwydd erbyn hyn gyda mwynhau seiclo'r Tour de France a'r Giro d'Italia, a llwyddiant anhygoel y Cymro Geraint Thomas dros y 15 mlynedd ddiwethaf. Ond mae'r sîn seiclo trac yr un mor gyffrous ar y funud, gyda reidwyr fel Emma Finucane, Anna Morris a Jess Roberts yn disgleirio ar y lefel uchaf."

"Mi fyddwn ni'n naturiol yn cadw llygad barcud ar y dair Cymraes, a dwi'n arbennig o gyffrous i weld Emma Finucane o Sir Gâr yn rasio sydd wedi gwneud enw mawr i'w hun dros y ddwy flynedd ddiwethaf, gan gipio medalau yn y Gemau Olympaidd a Phencampwriaethau'r Byd. Mae ganddi obeithion mawr o gipio teitl gwibiwr gorau'r gynghrair eleni."

Yn ymuno ag Emma yng Nghynghrair y Pencampwyr Trac UCI 2024 mae Anna Morris o Gaerdydd ac aelod o Dîm Prydain Fawr, sy'n rasio yn y Gynghrair Dygnwch ar ôl ei buddugoliaethau aur dwbl ym Mhencampwriaethau Trac y Byd Tissot UCI, a Jessica Roberts, sydd hefyd o Gaerfyrddin ac aelod arall o garfan Prydain Fawr.

Seiclo Trac: Cynghrair y Pencampwyr

23 Tachwedd 24, Seiclo Trac: Cynghrair y Pencampwyr (Uchafbwyntiau) 21:45

29 Tachwedd 24, Seiclo Trac: Cynghrair y Pencampwyr (Uchafbwyntiau) 23:00

30 Tachwedd 24, Seiclo Trac: Cynghrair y Pencampwyr (Byw) 14:00-18:30

6 Rhagfyr 24, Seiclo Trac: Cynghrair y Pencampwyr (Uchafbwyntiau), 22:05

7 Rhagfyr 24, Seiclo Trac: Cynghrair y Pencampwyr (Byw), 18:30-21:00

Cynhyrchiad Sunset & Vine ar gyfer S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?