19 Rhagfyr 2024
Bydd cyfres boblogaidd Priodas Pum Mil yn cynnig pennod gwahanol iawn ar gyfer diwrnod Nadolig. Bydd y pennod dwym galon a Nadoligaidd hon ag enw gwahanol hefyd - Priodas Pymtheg Mil.
Y tro hwn mae'r sioe yn newid gêr mewn rhamant a lleoliadau. Gyda'r gyllideb arferol o £5,000 ar gyfer priodas berffaith cwpl yn saethu fyny i £15,000, mae'r cyflwynwyr Emma Walford a Trystan Ellis-Morris yn wynebu her, nid yn unig dathlu cariad ond hefyd yr her o ddwyn ynghyd dau ddiwylliant gwahanol — Cymru a Sweden.
Y pâr yng nghanol y dathliad anhygoel hwn yw Aled Johnson o Sir Benfro a Malin Gustafsson o Sweden, sydd â stori garu sydd eisoes wedi croesi ffiniau. Penderfynodd y pâr wnaeth gyfarfod yn 2008 a chael dau o blant, Owain a Gwennan, briodi nid unwaith, ond ddwywaith, yn y ddwy wlad enedigol. Meddai Aled:
"Mae cwpl fel arfer yn priodi o flaen teulu a ffrindiau, wel mae ein teuluoedd ni yn Sweden a Sir Benfro felly ro'dd hi ond yn iawn i ni briodi yn y ddau le. Mae'r rhaglen hon wedi caniatáu i hynny ddigwydd ac rydym yn hapus iawn gyda'r ffordd y gweithiodd y cyfan mas.
"Dyw fy nhad 87 oed ddim erioed wedi hedfan, dyw e heb gael pasbort erioed, felly doedd dim cwestiwn fod y briodas swyddogol i ddigwydd yng nghapel Ebeneser, Eglwyswrw a gwasanaeth bendithio yn eglwys deuluol Malin."
Teuluoedd a ffrindiau estynedig y cwpl oedd yn gyfrifol am gynllunio'r ddwy briodas, gan greu corwynt o anhrefn, cyffro, a chyffyrddiad o hiwmor wrth i ddwy ochr y teulu frwydro gwahaniaethau diwylliannol ac arian lleol, llywio heriau logistaidd, a chael trafferth uno eu traddodiadau amrywiol.
Yn trio helpu gyda'r trefniadau mae'r cyflwynwyr Emma a Trystan – y ddau yn ei chael hi'n anodd cael eu pennau o gwmpas cyfnewid arian i kroner Sweden. Medd Emma:
"Fel pe na bai cynllunio dwy briodas mewn dwy wlad wahanol yn ddigon heriol, roedden ni'n wynebu'r cymhlethdod ychwanegol trwy geisio deall y kronor Swedaidd.
"Gyda chyfanswm y pot bellach yn £15,000 anhygoel (treblu'r swm arferol), roedd angen i ni geisio peidio â bod yn rhy gyffrous amdano. O leiaf fe gawson ni help y ffrindiau a'r teulu o Gymru a theulu Malin o Sweden felly wnaethon ni ddim gor-wario a chael ein hunain i fewn i drwbwl!"
Roedd yn rhaid dilyn arferion Sweden tra'n ymweld â'r wlad wrth gwrs, ac yn y ffordd Sweden go iawn, mae Emma a Trystan yn taflu eu hunain benben i fewn i rai o draddodiadau eiconig y wlad. O'r sawna (annatod yn niwylliant Sweden) i'r amrywiaeth o bysgod i ddewis ohonynt ar gyfer y wledd briodas, mae'r ddau yn ymgolli ym mhob traddodiad anarferol sydd gan y wlad i'w gynnig.
Mae yna eiliadau doniol wrth i Trystan, sy'n cael trafferth gyda physgodyn wedi'i biclo a'r pysgod drewllyd, geisio peidio â gadael i'r ôl-flas miniog ddifetha hwyl yr ŵyl, tra bod Emma yn neidio i mewn i'r llyn rhewllyd ac yn ceisio peidio gadael gwres poeth y sawna ei threchu.
Ond yng nghanol yr holl hiwmor a'r gwahaniaethau diwylliannol, mae un peth yn glir: mae Aled a Malin mewn cariad, ac mae diwrnod eu priodas yn llawn llawenydd, cynhesrwydd, ac ymdeimlad o gysylltiad sy'n croesi ffiniau.
Yng Nghymru, mae'r dathliadau'r un mor hyfryd, ond gyda gogwydd mwy Cymreig. Mae tad Aled sydd yn 87 oed, nad oedd wedi gallu teithio i Sweden oherwydd nad oes ganddo basbort, yn rhan hanfodol o'r briodas Gymreig ac mae'n cyfnewid ei esgidiau dŵr am bâr o'i esgidiau Sul gorau.
Mae yna ymddangosiad arbennig yn y briodas gydag aelod o'r capel, y canwr gyfansoddwr enwog Cleif Harpwood, yn canu cân serch o'i gyfansoddiad ei hun.
Gyda chymorth Emma a Trystan, teuluoedd a ffrindiau, mae'r briodas ddwbl yn llwyddiant ysgubol, ac mae'r gyllideb o £15,000 yn fwy na digon i greu dwy seremoni fendigedig.
Mae Aled a Malin yn profi bod uno dau ddiwylliant ynghyd â dau berson â'i gilydd i'w dathlu, a dim yn well na chael teulu a ffrindiau wrth wraidd y cyfan.