S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

19 Rhagfyr 2024

Arlwy teledu Nadoligaidd yn cynnig adloniant bythgofiadwy i bawb.

Bydd S4C yn dathlu tymor y Nadolig gydag amserlen ddisglair o raglenni fydd yn swyno'r holl emosiynau. O gomedi stand-yp doniol gydag Elis James, canu o'r galon gyda Bronwen Lewis ac Aled Jones, drama afaelgar gydag Erin Richards, a chyfle i syrthio mewn cariad ar y llethrau gydag Elin Fflur, mae gan y sianel rywbeth at ddant pawb.

Bydd cyfle i wylwyr fwynhau cymysgedd Nadoligaidd o gynnwys gwreiddiol, gan gynnwys ffefrynnau cyfarwydd fel Sgwrs Dan y Lloer a rhifyn arbennig o Priodas Pymtheg Mil ynghyd â chynyrchiadau cyffrous newydd yn fuan wedi'r Ŵyl, fel y gyfres ddêtio newydd Amour a Mynydd ar lethrau Alpau Ffrainc a taith Iolo Williams a'i fab yn Iolo a Dewi: Y Tad a'r Mab a Zambia.

Gall plant hefyd fwynhau'r tymor gyda cyfres newydd o'r ddrama sci-fi llawn dirgelwch, Itopia, ynghyd â chyfres newydd o Mabinogi-ogi a'u hoff rifynnau Nadolig o Deian a Loli.

Wedi i'r plant swatio yn eu gwlâu, setlwch ar y soffa i fwynhau'r ddrama drosedd llawn tensiwn Ar y Ffin wedi'i lleoli yng Nghasnewydd.

Fflam y Ddraig

I'r ffans chwaraeon bydd dwy gêm ddarbi yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig i'w gweld yn fyw ar Clwb Rygbi gyda'r Dreigiau yn erbyn Caerdydd ar ddiwrnod San Steffan a'r Scarlets yn erbyn y Dreigiau ar 1 Ionawr. Bydd Clwb Rygbi hefyd yn darlledu gemau Super Rygbi Cymru rhwng Caerdydd a Chasnewydd ar 22 Rhagfyr a RGC yn erbyn Pen-y-Bont ar 28 Rhagfyr. Ac mi fydd Sgorio yn darlledu'r ddwy gêm bêl-droed rhwng Caernarfon a'r Seintiau Newydd hefyd ar ddiwrnod San Steffan a Pen-y-bont a Met Caerdydd ar 31 Rhagfyr yn fyw.

Ar ben hyn oll, mi fydd penodau Nadolig o ffefrynnau S4C, yn cynnwys Noson Lawen, Cefn Gwlad, Pobol y Cwm, Rownd a Rownd, Am Dro! Selebs!, Dechrau Canu Dechrau Canmol a llawer mwy.

Gyda chyfuniad o lawenydd, cyffro, chwerthin a chymuned, mae S4C ar fin gwneud y Nadolig hwn yn wirioneddol arbennig i gynulleidfaoedd Cymru a thu hwnt.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?