23 Rhagfyr 2024
Mae'r opera sebon poblogaidd wedi cydweithio â Chymorth i Ferched Cymru a Llywodraeth Cymru i godi ymwybyddiaeth o sefyllfa gymdeithasol sy'n medru bod yn heriol iawn i ddioddefwyr dros gyfnod y Nadolig.
Mewn pennod arbennig awr o hyd sy'n cael ei ddarlledu ar ddydd Nadolig am 9yh, bydd stori afaelgar ac emosiynol ynghylch perthynas gythryblus Tom a Cheryl yn cyrraedd penllanw, gan dynnu sylw at beryglon a realiti creulon cam-drin domestig.
Mae Pobol y Cwm, cynhyrchiad BBC Studios wedi'i gomisiynu gan BBC Cymru Wales i S4C, wedi bod yn rhan annatod o deledu Cymraeg ers 50 mlynedd. Mae'r tîm cynhyrchu wedi cydweithio'n agos â Chymorth i Ferched Cymru, i sicrhau bod y stori'n cael ei phortreadu â chywirdeb, parch a dealltwriaeth o gymhlethdodau trais domestig.
Mae Cymorth i Ferched Cymru, elusen flaenllaw sy'n cefnogi oedolion a phlant sy'n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig, yn esbonio bod hyn yn fwy na thrais corfforol yn unig. Gall gynnwys ymddygiad sy'n rheoli a gorfodi, hefyd. Mae'r portread o berthynas Tom a Cheryl yn ein hatgoffa fod cam drin domestig yn gallu effeithio unrhywun, ac o unrhyw ddosbarth cymdeithasol.
Mae gwybodaeth gan Cymorth i Ferched Cymru hefyd yn datgelu y gall cyfnod y Nadolig fod yn fwy heriol, oherwydd bod dioddefwyr yn treulio mwy o amser gartref ac yn methu cael cymorth a chyngor mor rhwydd.
Cheryl (Rebecca Trehearn)
I Rebecca Trehearn, sydd wedi chwarae rhan Cheryl Thomas ar Pobol y Cwm ers 2023, roedd gweithio gyda Chymorth i Ferched Cymru yn hynod ddefnyddiol:
"Pan nes i ffeindio allan lle oedd y stori'n mynd i fynd, mi nes i fy ymchwil fy hun a gwylio lot o ddogfennau oedd yn delio efo trais yn erbyn menywod, a thrais yn erbyn dynion hefyd, ond oedd o jest yn ddefnyddiol iawn i fi gael sgwrs efo pobl oedd yn gwybod gymaint am y pwnc ac yn gallu ateb unrhyw gwestiwn oedd gen i. A hefyd roi ryw syniad i fi o sut y bysa rhywun fel Cheryl yn ymateb mewn sefyllfa fel yma."
Mae Rebecca hefyd yn gobeithio y bydd gweld stori Cheryl ar lwyfan fel Pobol y Cwm yn codi ymwybyddiaeth i'r rhai sy'n dioddef:
"Mae'n digwydd i gymaint o fenywod, a dynion, allan yna. Dwi'n meddwl fod pobl weithiau yn barod iawn i feddwl mai'n rhaid bod yna ddwy ochr i'r stori; bod hi wedi gwneud rhywbeth iddo fo, a bod o ddim i gyd yn unochrog. Ond weithiau, mae o. Os ydi hwn yn gwneud i bobl ail-ystyried y ffordd maen nhw'n ymateb i bobl fel Cheryl a herio preconceptions pobl am gymeriadau fel Cheryl, fyswn i'n falch iawn o hynny."
Yn unol â'r stori, mae Pobol y Cwm yn annog gwylwyr a allai fod yn dioddef o gam-drin domestig i estyn allan am gefnogaeth. Mae Cymorth i Ferched Cymru yn cynnig llinellau cymorth cyfrinachol a chyngor i unigolion sy'n chwilio am gymorth, a'r gobaith yw y bydd y rhaglen yn annog dioddefwyr i godi'r ffôn a chwilio am gymorth.
Dywedodd Sara Kirkpatrick, Prif Weithredwr Cymorth i Ferched Cymru:
"Mae gweithio gyda'r tîm yn Pobol y Cwm wedi bod yn gyfle gwych i godi ymwybyddiaeth a thynnu sylw at gam-drin domestig. Rydym yn ddiolchgar bod y tîm wedi cael cymaint o fuddsoddi i gael portread o'r hawl hon, er mwyn gallu dangos i wylwyr realiti'r profiad y mae llawer o brofiadau yn ddyddiol.
"Byddwn ond yn dod ag epidemig cam-drin domestig i ben os ydym yn gallu newid normau diwylliannol o amgylch yr hyn sy'n ymddygiad derbyniol. Mae hon yn wyliadwriaeth anodd ond pwysig ac mae'n gyfle i ddechrau'r sgyrsiau hynny a chreu newid.
"Rydyn ni am i bob dioddefwr a goroeswr wybod nad yw cam-drin byth yn fai arnyn nhw ac mae help a chefnogaeth ar gael iddyn nhw."
Ychwanegodd Jane Hutt, AS Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol:
"Diolch i S4C am fynd i'r afael â'r mater hollbwysig o drais yn erbyn menywod yn y bennod Nadolig o Pobol y Cwm."Mae hyn nid yn unig yn adlewyrchu'r realiti anodd y mae nifer o fenywod yn eu hwynebu ond hefyd yn arf hanfodol i godi ymwybyddiaeth ac annog sgyrsiau. Drwy ddod â phwnc mor sensitif ac arwyddocaol i'r amlwg mae'n helpu i dorri'r distawrwydd sy'n cael ei gysylltu â thrais yn llawer rhy aml.
"Rydym yn gwybod y gall cam-drin domestig, stelcian, aflonyddu a thrais rhywiol gael effaith ddifrifol a pharhaol ar bob agwedd o fywyd y dioddefwr, gan gynnwys eu hiechyd meddwl, ac rwy'n annog unrhyw un sydd wedi profi trais neu gamdriniaeth i gael mynediad at gymorth arbenigol."
Gellir cysylltu â llinell gymorth Cymorth i Ferched Cymru, Byw Heb Ofn, ar 0808 80 10 800. Mae'n wasanaeth cymorth a gwybodaeth ddwyieithog, gyfrinachol, am ddim sydd ar gael 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos.
Bydd gwylwyr yn derbyn manylion llinellau cymorth ac adnoddau wrth i'r bennod ddarlledu, gan sicrhau bod y rhai sy'n gwylio a allai fod mewn sefyllfaoedd tebyg yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael iddynt. Mae rhagor o gyngor a gwybodaeth ar gael ar dudalennau Cymorth S4C - s4c.cymru/cymorth.
Tom / Dave (Rhys ap Trefor)