2 Ionawr 2025
Mae llofruddiaeth Gerald Corrigan, a laddwyd gan fwa croes yng nghefn gwlad Ynys Môn, yn parhau i fod yn un o ddirgelion troseddol mwyaf dyrys Cymru. Dyma achos iasol sydd wedi poenydio cymuned yr ynys ers 2019.
Mewn rhaglen ddogfen dwy ran sy'n cael eu darlledu ar S4C ar 2il a 3ydd o Ionawr Llofruddiaeth y Bwa Croes, rydym yn cael archwiliad manwl o'r hyn ddigwyddodd, sydd yn cynnwys cyfweliadau â newyddiadurwyr, patholegydd, cymdogion a ffrindiau Gerald.
Mae'r gyfres yn ailymweld â'r digwyddiadau brawychus o amgylch ei farwolaeth ac yn ceisio ateb yr un cwestiwn sydd wedi aros ers blynyddoedd: Pam lladdwyd Gerald Corrigan?
Ar ddydd Gwener y Groglith, Pasg 2019, daethpwyd o hyd i gorff Gerald Corrigan y tu allan i'w gartref anghysbell ym Mhorth Dafarch ar Ynys Môn. Roedd bollt bwa croes wedi ei daro, dull anarferol a barbaraidd o ladd wnaeth godi braw ar yr ymchwilwyr.
Yr hyn wnaeth y drasiedi hon hyd yn oed yn fwy annifyr oedd diffyg unrhyw gymhelliad clir. Roedd Gerald yn ddyn oedd wedi ymddeol i'r Ynys ac heb unrhyw elynion amlwg, gan arwain yr heddlu i ddyfalu y gallai hyn fod wedi bod yn ymosodiad ar hap. Fodd bynnag, heb unrhyw dystiolaeth i gefnogi'r ddamcaniaeth hon a neb dan amheuaeth amlwg, buan datblygodd yr achos i fod yn un o ddirgelwch a fyddai'n drysu ymchwilwyr am fisoedd i ddod.
Mae pennod gyntaf y rhaglen ddogfen ar S4C yn mynd â'r gwylwyr yn ôl i leoliad y drosedd. Tŷ anghysbell gyda dysgl loeren wedi torri a chorff dyn a oedd yn ymddangos ei foed yn byw bywyd heddychlon a thawel, ond a lofruddiwyd mewn ffordd anarferol a chreulon.
Cyflwynir ffilm fideo i'r gwylwyr yn dangos yr ymdrechion cychwynnol o geisio darganfod beth yn union ddigwyddodd, ond roedd y diffyg mewn tystiolaeth fforensig a datganiadau gan dystion ond yn dyfnhau'r dirgelwch.
Rydym yn cael clywed gan newyddiadurwyr fuont yn gweithio ar y stori gan rannu'r dryswch a'r rhwystredigaeth yr oeddent yn ei deimlo wrth i'r ymchwiliad fynd rhagddo heb lawer o ddatblygiadau. Maen nhw'n manylu ar sut roedd y wasg yn cael eu llyncu gan y stori, gan geisio gwneud synnwyr pam y byddai dyn fel Gerald yn cael ei dargedu mewn ffordd mor dreisgar ac amhersonol.
Gydag ychydig o wybodaeth, daeth yr achos yn destun dyfalu'n gyflym, ac roedd y cyfryngau, yn debyg i'r heddlu, yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i esboniad am y llofruddiaeth ddisynnwyr.
Yn yr ail bennod, mae'r rhaglen ddogfen yn ymchwilio'n ddyfnach i'r achos, gan archwilio gwahanol ddamcaniaethau a thrio treiddio i fewn i we gymhleth yn cynnwys twyll, trosedd a chyffuriau – hyn i gyd yn agos at gartref Gerald Corrigan.
Cafodd therapydd chwaraeon o'r enw Terence Whall, oedd yn byw ym Mryngwran heb fod ymhell o gartref Gerald, ei gyhuddo o'i lofruddiaeth a'i ddedfrydu i o leiaf 31 mlynedd yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ym mis Chwefror 2020.
Mae'r rhaglen yn datgelu sut cafodd Whall ei arestio a'i gyhuddo o'r llofruddiaeth. Roedd ditectifs wedi siarad â Whall cyn iddynt ei amau gan ei fod yn un o 17 o bobl ar Ynys Môn i brynu bwa croes yn y 10 mlynedd cynt oddi wrth cyflenwr bwa croes mwyaf y DU.
Whall oedd o dan brif amheuaeth yr heddlu wythnosau ar ôl cael ei gyfweld gyntaf, pan ddarganfuwyd Land Rover Discovery yn perthyn i'w bartner wedi'i losgi ger Bethesda - taith 25 munud mewn car o'i gartref.
Mae'r rhaglen yn dangos bod dadansoddiad o delemateg y Land Rover - cerdyn SIM yn olrhain lleoliad - wedi datgelu ei fod wedi parcio ar draeth Porth Dafarch, nepell o gartref Gerald Corrigan ger llwybr arfordirol Ynys Môn adeg y llofruddiaeth. Roedd Whall a'i gyfeillion wedi ceisio dinistrio'r cerbyd dryw ei losgi yn fwriadol, ond yn ddiarwybod iddyn nhw roedd y wybodaeth telematig wedi ei lwytho fyny i'r cwmwl.
Datgelodd ôl troed digidol Whall hefyd ei fod wedi prynu'r union pen y saeth o'r bwa croes a'r bollt i'r un laddodd Gerald, ar Amazon mewn dau archeb ar wahân ychydig wythnosau cyn y llofruddiaeth.
Yn ôl erlynwyr Whall, heb dechnoleg lleoliad y 'blwch du' yn y Land Rover, gallai Whall fod wedi osgoi cael ei ddal.
Ond does dim rheswm wedi ei roi o hyd am pam y lladdwyd Gerald Corrigan. Mae ei farwolaeth yn parhau'n ddirgelwch annifyr a fydd yn parhau i boeni pobl Môn - a'r rhai sy'n cofio ei stori.