30 Rhagfyr 2024
Mae S4C yn falch o fod yn lawnsio cyfres gyffrous newydd i blant a fydd yn cofleidio, dathlu a dyrchafu Cymry ifanc ag anableddau ac anghenion cyfathrebu. Bydd Help Llaw yn diddannu drwy chwerthin a dysgu gan gynnwys Makaton fel adnodd cyfathrebu.
Mae'r rhaglenni yn cynnig llond bol o chwerthin wrth ddyrchafu'r sêr ifanc sydd yn cymryd rhan.
Prif nod y gyfres yw diddanu a gwneud hynny trwy fod yn gynhwysol i blant a theuluoedd o bob math, gan ddangos bod S4C yn le i bawb.
Mae'r gyfres yn cyflwyno fformat newydd sbon gyda thri cymeriad deinamig – Harri Mawr yr handiman cyfeillgar, ei brentis Harri Bach, a Harriet yr un sy'n trio cadw trefn ar y ddau.
Llyr Evans yw'r dyn DIY doniol Harri Mawr, sydd bob amser yn barod i helpu, i drwsio ac i adeiladu, ond sydd yn fwy aml na dim yn gwneud llanast ohoni mewn gwirionedd. Harriet yw Non Haf a Harri bach yw Leon Fletcher.
Mae Leon yn ddisgybl yn Ysgol Pendalar yng Nghaernarfon.
Gyda'i gilydd, a chyda chymorth Hafwen y trefnydd annwyl ar-lein, mae'r tri yn taclo heriau a thrwy hynny yn mynd ar anturiaethau gyda phlant o Gymru benbaladr i helpu pob math o bobol gyda'u jobsus.
Ar hyd y ffordd bydd Harriet hefyd yn helpu'r gynulleidfa i gyfathrebu drwy ddangos sut i greu arwyddion Makaton.
Trwy integreiddio Makaton a hwyl gweledol mae hon yn gyfres fydd yn codi ymwybyddiaeth o'r gwahanol ddulliau o gyfathrebu mae plant yn eu defnyddio ac yn gwneud hynny mewn cyfres fydd yn apelio at bawb - yn blant o ddim i gant oed.
Dyma'r comisiwn ddiweddaraf rhwng cwmni cynhyrchu Ceidiog ac S4C - yr un tîm creadigol sydd y tu ôl i'r sioeau hynod lwyddiannus, Dwylo'r Enfys ar gyfer S4C a Dizzy Deliveries ar gyfer RTÉ yn Iwerddon. Mae'r cwmni yn arbenigo mewn cynnwys sy'n targedu plant gydag amrywiol anghenion ac sy'n gweithio gyda phartneriaid arbennig i gyfleu hynny i S4C.
Dywedodd Nia Ceidiog, Cyfarwyddwr Ceidiog:
"Mae'r sioe newydd hon yn hynod o agos at fy nghalon. Mae'n gyfle i barhau â'n 'cenhadaeth' o hyrwyddo gwelededd, cynhwysiant a dealltwriaeth, gan ddangos i blant bo' nhw ddim yn cael eu diffinio gan eu hanableddau ond gan eu galluoedd a'u dyheadau.
"Mae Makaton yn offeryn mor bwerus ar gyfer cyfathrebu, a fy ngobaith yw y bydd ein cyfres yn ysbrydoli plant a theuluoedd a'u cymunedau i adnabod a defnyddio'r adnodd arbennig yma. A hynny fel bod mwy o bobol yn dod i ddeall ei gilydd - mewn mwy nag un ffordd!
Yn fwy efallai na hynny, dyma gyfle i chwerthin efo'r sêr ifanc wrth iddyn nhw a ni ddotio at giamocs Harri."
Ychwanegodd Sioned Geraint, Pennaeth Rhaglenni Plant S4C:
"Rydym wrth ein bodd yn cydweithio â Ceidiog unwaith eto i ddod â'r sioe newydd arloesol hon yn fyw. Bydd y gyfres hon yn taflu goleuni ar leisiau plant ag anableddau dwys ac anghenion cyfathrebu, gan roi lle iddynt gael eu clywed a'u dathlu.
"Drwy ddefnyddio Makaton, rydym yn falch o gynnig ffordd hygyrch a gafaelgar i gynulleidfaoedd ifanc gysylltu â'r cymeriadau a'u straeon. Bydd nid yn unig yn ennyn diddordeb plant ond bydd hefyd yn atseinio gyda theuluoedd cyfan, gan sbarduno sgyrsiau pwysig am gynhwysiant a chyfathrebu."