S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

29 Rhagfyr 2024

Bydd cyfres garu realiti newydd sbon, Amour & Mynydd yn dechrau ar S4C ar 1 Ionawr.

Bydd y gyfres pedair rhan yn dod ag wyth unigolyn sengl ynghyd, gan gynnig cyfle unigryw iddynt ddod o hyd i gariad - ac efallai darganfod mwy amdanynt eu hunain ar hyd y ffordd. Yn gefnlen i'r cwbl fydd golygfeydd syfrdanol yr Alpau Ffrengig.

Dros gyfnod o ddeg diwrnod, bydd yr unigolion yn cydfyw yn chalet Amour & Mynydd, ac o dan adain y cyflwynydd Elin Fflur a Gwil Thomas, sy'n gofalu am y chalet, byddan nhw'n cael y cyfle i gefnogi'i gilydd drwy amryw o brofiadau bythgofiadwy.

"Dwi erioed wedi gweld rhywbeth fel hyn yn Gymraeg o'r blaen" meddai Elin Fflur am y gyfres.

"Mae hi'n gyfres neith 'neud i bobl wenu, chwerthin a chrio (ella). Mae 'na 'chydig o bob dim ynddi. Os 'dach chi'n licio rhaglenni realiti, fyddwch chi'n caru Amour & Mynydd. Ond dwi'n meddwl bydd hi'n apelio at bawb.

"Dio ddim jest amdanyn nhw'n ffeindio cariad - roedden ni'n dod i 'nabod nhw a'u personoliaethau. Mae rhoi pobl mewn tŷ efo'i gilydd am ddyddiau yn brofiad intense, ac ro'n i'n teimlo drostyn nhw weithiau - roeddet ti'n gwenu efo nhw, yn crio efo nhw, roedd o'i gyd yn rhan o'r profiad."

Bydd fodcast newydd ôl-sioe, Après: Amour & Mynydd yn dilyn pob rhaglen ar sianel YouTube S4C, S4C Clic a BBC iPlayer, lle bydd y ddeuawd ddoniol a 'super-ffans' o'r gyfres, Mari Beard a Meilir Rhys Williams, yn trin a thrafod y diweddaraf o amour yr Alpau.

Bob wythnos, bydd y ddau, sy'n adnabyddus am eu podcast hwyliog 'Cwîns' yn cael cwmni gwesteion arbennig i hel clecs, dadansoddi a rhannu sylwadau am y bennod. Yn ymuno â nhw hefyd fydd rhai wynebau cyfarwydd gan gynnwys Mirain Iwerydd (cyflwynydd ar BBC Radio Cymru 2 a Heno), y digrifwr Carwyn Blayney, y dylanwadwr ar-lein Beca Morgan, seren TikTok Callum Ryan a seren cyfres ITV Love Island, Liam Reardon.

Yn gwbl wahanol i'r arferiad o ddêtio digidol, mae Amour & Mynydd yn mynd i'r afael ar greu cysylltiad wyneb yn wyneb, gan ddibynnu ar hud atyniad naturiol.

Mae Elin Fflur, sydd wedi bod yn briod i'w gŵr Jason ers 12 mlynedd wedi nodi cymaint mae'r ffordd o ddod o hyd i gymar wedi newid yn ystod y cyfnod hwnnw, a bod peryg i ddêtio dros y we yn rhywbeth 'all bobl fynd yn addicted iddo'.

Meddai Elin: "Mae 'na rywbeth arwynebol iawn am feirniadu cymar posib yn seiliedig ar lun a phwt bach o wybodaeth. Ges i chydig o addysg yn gwylio'r criw'n trafod y pethau 'ma, a sut maen nhw'n ffeindio cariad y dyddiau yma. Yn Amour & Mynydd, roedden nhw'n gorfod mynd efo'r elfen draddodiadol 'na o sgwrsio efo'i gilydd wyneb yn wyneb yn syth bin.

"Doedd 'na ddim gallu tecstio'i gilydd i ddechrau. Roedd yr holl brofiad yn mynd â nhw'n ôl i basics bywyd, drwy sgwrsio, cael 'mlaen a rhannu'r un math o ddiddordebau. Dwi'n meddwl ella bod nhw di cael budd o'u hatgoffa o hynna hefyd - bod 'na fwy i hyn na swipe left neu swipe right!"

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?