1 Ionawr 2025
Ar ddechrau'r flwyddyn, cymerwch y cam cyntaf i drawsnewid eich bywyd gyda Tŷ Ffit, cyfres newydd sbon yn cychwyn ar S4C ar 7 Ionawr.
Yn ystod y gyfres, sydd wedi'i chyflwyno gan Lisa Gwilym, bydd pum unigolyn (neu cleient) sydd â'r awch i drawsnewid eu bywydau ac i garu eu hunain eto, yn aros mewn hafan anhygoel ar arfordir Ynys Môn dros gyfnod o saith penwythnos.
Gyda chymorth gan Fentoriaid ysbrydoledig ac Arbenigwyr profiadol yn eu harwain pob cam o'r ffordd, bydd y Cleientiaid yn canolbwyntio ar wella eu lles corfforol, meddyliol ac emosiynol yn ystod eu cyfnod ar Tŷ Ffit.
Y pump fydd yn cymryd rhan yn y gyfres yw:
Bydd pob un ohonynt yn cael eu paru â Mentor arbennig.
Un o'r Mentoriaid sy'n rhan o dîm Tŷ Ffit yw'r cyn-chwaraewr rygbi Shane Williams, sy'n enwog am ei gyfnod llwyddiannus fel asgellwr i'r Gweilch ac i dîm cenedlaethol Cymru. Fe sydd wedi sgorio'r mwyaf o geisiadau erioed i Gymru (58).
Ymddeolodd Shane ar ôl bron i 20 mlynedd ar frig y gamp ac ers hynny mae o wedi rhagori mewn chwaraeon dygnwch, yn enwedig triathlon ac Ironman. Yn ei ras gyntaf yn Ninbych-y-pysgod yn 2016, gorffennodd yn drydydd yn ei grŵp oedran (dynion rhwng 45-49 oed) ac yn rhif 81 yn gyffredinol.
Dywedodd Shane Williams:
"Mae e wedi bod yn fraint bod yn rhan o Tŷ Ffit – rhaglen bwysig sydd wirioneddol yn newid bywydau.
"Fel Mentor, o'n i moyn sialens ond o'n i hefyd moyn gyrru'r person nes i ddewis i ffeindio'r cryfder hynny sydd tu fewn i ni gyd. Mae e am ddyfalbarhau, gweithio fel tîm a peidio rhoi fyny. A fel rygbi, dyw'r daith yma ddim jest yn gorfforol – mae e am ddod o hyd i'r cryfder meddyliol yna a dysgu i gredu yn eich hun.
"O'dd e'n bwysig i fi ddangos bod y buddugoliaethau gorau yn medru dod pan wyt ti'n wynebu heriau head-on."
Mentor arall yw'r pencampwr Paralympaidd am daflu disgen a siot, Aled Davies. Daw Aled o Ben-y-bont ar Ogwr a chafodd ei eni gyda hemimelia y goes dde. O oedran ifanc roedd yn mwynhau chwaraeon ac yn 2005, penderfynodd ymrwymo i'r siot a'r ddisgen.
Enillodd y Record Byd am y siot F42 yn 2012, ac yng Ngemau Paralympaidd y flwyddyn honno, cipiodd y fedal efydd yng nghystadleuaeth y siot ac aur yn y ddisgen.
Yng Ngemau Paralympaidd Rio yn 2016, enillodd fedal aur yn y siot F42 gan dorri record Paralympaidd newydd ac yn 2020, enillodd fedal aur arall yn ergyd y dynion F63. Yn y Gemau ym Mharis eleni, enillodd fedal arian yn y siot T63.
Y trydydd Mentor yw Naomi Allsworth, yr arbenigwr ar oroesi yn y gwyllt sydd yn cynghori Academi Bear Grylls.
Daw Naomi yn wreiddiol o Grymych a newidiodd ei gyrfa o fod yn gynllunydd dillad i gynnal cyrsiau goroesi mewn natur gwyllt ar ôl iddi fynychu cwrs Sgiliau Goroesi gan Academi Bear Grylls.
Daeth hi'n ail yn y gyfres Alone ar Channel 4 ar ôl wynebu arth ar ei phen ei hun yng Nghoetiroedd Alpaidd Canada ac mae hi bellach yn rhedeg y sefydliad The Rambler's Mistress, sy'n dod â menywod o'r un anian at ei gilydd a'u trochi mewn byd natur.
Siôn 'Monty' yw Mentor arall Tŷ Ffit – perchennog ar gampfa a hyfforddwr ffitrwydd o Borthmadog. Mi aeth o drwy daith trawsnewid ei hun gan golli bron i bedair stôn ar ôl dod yn dad 7 mlynedd yn ôl. Roedd Siôn yn rhan o'r rhaglen ddogfen ar S4C yn 2024; 30 Stôn: Brwydr Fawr Geth a Monty.
A'r pumed Mentor yw Caris Bowen, sy'n hyfforddwr nofio dŵr agored o Lanelli a goncrodd ei ffobia o ddŵr dwfn ar ôl goroesi cancr Hodgkins Lymphoma rhai blynyddoedd yn ôl yn 21 oed. Erbyn hyn, mae ei hiechyd meddwl, ei hiechyd corfforol a'i hagwedd at fywyd yn well nag erioed.
Yn ogystal â'r Mentoriaid, mae pedwar Arbenigwr yn y maes iechyd hefyd yn rhan o dîm Tŷ Ffit. Yr Arbenigwyr yw'r hyfforddwr personol o Ddyffryn Nantlle a perchennog busnes, Cadi Fôn, y maethegydd sy'n wreiddiol o Gaerfyrddin ond bellach wedi ymgartrefu ym Methesda, Angharad Griffiths, Dr Sherif Khalifa, sy'n feddyg teulu yng Nghaerdydd, a'r cwnselydd Sioned Lewis.
Erbyn diwedd y gyfres, bydd y gynulleidfa'n gweld i ba raddau bydd mynd i'r afael ag iechyd meddwl, iechyd corfforol a lles emosiynol yn arwain at drawsnewidiad ym mywydau'r Cleientiaid.
Ac mae modd dilyn cynllun arbennig Tŷ Ffit ar y wefan www.s4c.cymru/tyffit.