18 Tachwedd 2024
Mae S4C a'r consortiwm cyfryngau Cymraeg Media Cymru wedi cyhoeddi'r prosiect ymchwil a datblygu mwyaf uchelgeisiol yn hanes S4C.
Bydd yn archwilio dyfodol cynulleidfaoedd S4C, ei dosbarthiad a'i amlygrwydd darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn yr oes ddigidol. Nod y sianel yn y pen draw yw sicrhau bod ei chynnwys Cymraeg yn hawdd ei ddarganfod yng Nghymru a ledled y DU.
Gan weithio gyda Media Cymru, consortiwm Cymreig sy'n cefnogi arloesedd yn y cyfryngau, bydd y prosiect yn rhoi hwb sylweddol i waith ymchwil presennol y sianel, yn darparu cyngor arbenigol a buddsoddiad mewn talent fewnol i helpu i ddatblygu strategaeth ddigidol gadarn sy'n addas ar gyfer y dyfodol.
Arweinir y prosiect gan Laura Franses, Cyfarwyddwr Gweithgareddau Masnachol S4C, mewn cydweithrediad â Sarah Tierney o Tierney Consulting a Lydia Fairfax o Triple Crown Consulting.
Yn oll, bydd y prosiect, o'r enw Trawsnewid Dyfodol Digidol S4C ac yn rhedeg tan fis Rhagfyr 2025 yn;
Wrth gyhoeddi'r prosiect, dywedodd Prif Weithredwr dros dro S4C, Sioned Wiliam: "Mae'r prosiect hwn yn dod ar foment dyngedfennol yn ein hanes, ar y cyd â Deddf y Cyfryngau 2024. Mae'n cynnig cyfle digynsail i ni ym myd darlledu cyhoeddus i wneud cynnwys S4C yn hawdd ei ddarganfod i gynulleidfa ehangach ac ar lwyfannau lluosog."
Dywedodd yr Athro Justin Lewis, Cyd-gyfarwyddwr Media Cymru: "Mae ein cydweithrediad ag S4C yn foment drobwynt i'r sianel, sydd wedi ymrwymo i archwilio ystod lawn o lwybrau digidol i ddiogelu ei dyfodol a sicrhau bod ei chynnyrch yn ddarganfyddadwy ar gyfer ystod o gynulleidfaoedd newydd ar draws y DU a thu hwnt.
"Bydd Trawsnewid Dyfodol Digidol S4C yn darparu dadansoddiadau a mewnwelediadau arbenigol i amlinellu strategaeth ddigidol newydd ar gyfer y dyfodol ac yn helpu i sicrhau bod arloesedd cyfryngau yma yng Nghymru yn cael ei hybu gan dwf economaidd teg a gwyrdd."
Bydd diweddariadau pellach ar y prosiect yn cael eu cyhoeddi maes o law.