Mae S4C yn falch o gyhoeddi mai Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes newydd y sianel yw Geraint Evans. Mae Geraint ar hyn o bryd yn Olygydd Rhaglenni Cymraeg yn ITV Cymru ac yn gyfrifol am raglenni megis Y Byd yn ei le, Y Byd ar Bedwar, Ein Byd a Cefn Gwlad.
12 Rhagfyr 2018
Mi fydd detholiad o gyfresi poblogaidd S4C a ffilmiau Nadolig ar gael i'w wylio ar alw fel bocs sets ar wasanaeth ar-alw y sianel, S4C Clic.
Mae S4C wedi cyhoeddi cystadleuaeth arbennig i ddathlu cyrraedd 50,000 o ddilynwyr ar Facebook. S4C sy'n rhedeg y cyfrif Cymraeg mwyaf gyda'r nifer uchaf o ddilynwyr.
Mae cyfres antur ddychrynllyd i bobl ifanc, Prosiect Z, wedi ennill gwobr BAFTA Plant 2018. Cynhaliwyd seremoni BAFTA, sydd yn gwobrwyo'r rheiny sy'n flaengar ym maes cyfryngau plant ym Mhrydain, yn Llundain neithiwr nos Sul 25 Tachwedd.
Mae cyfres lwyddiannus S4C Un Bore Mercher (Keeping Faith) wedi cael ei henwebu yng Ngwobrau Rhyngwladol Drama C21 2018 yng nghategori Drama Gorau Drama Mewn Iaith Heblaw Saesneg.
Wedi ei ffilmio yng ngorllewin Cymru, fe ddatblygwyd Un Bore Mercher yn wreiddiol gan S4C. Yn ystod yr haf, dangoswyd Keeping Faith ar deledu rhwydwaith ar draws y DG - y tro cyntaf i gynhyrchiad drama teledu ar y cyd rhwng S4C a BBC Cymru gael ei ddarlledu ar BBC One.
8 Tachwedd 2018
Bydd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon Jeremy Wright CF, AS a Gweinidog Llywodraeth y DU i Gymru Yr Arglwydd Bourne yn agor pencadlys newydd S4C yng Nghaerfyrddin heddiw, dydd Iau, 8 Tachwedd 2018 am 11.30 y bore.
Yn ystod eu hymweliad byddant yn cael eu tywys ar daith o'r adeilad newydd sbon, arloesol Yr Egin.
1 Tachwedd 2018
Mae rhai o gyflwynwyr mwyaf poblogaidd S4C yn byw ac yn gweithio yng nghanolbarth Cymru ac mae camera cwmnïau teledu Cymraeg yn aml yn cael eu gweld yn ffilmio ar hyd a lled Powys - ond nawr mae cyfle i wylwyr yr ardal ddod o hyd i'w llais.
31 Hydref 2018
Mae S4C wedi denu cefnogaeth noddwr crysau tîm rygbi Cymru, Isuzu, ar gyfer Cyfres Ryngwladol Under Armour yr Hydref eleni. Bydd y cwmni ceir o Siapan - sydd yn cael eu hadnabod fel y pick-up professionals ac yn sy'n gwneud Isuzu D-Max - yn noddi rhaglenni Clwb Rygbi Rhyngwladol, wrth iddyn nhw ddangos gemau Cymru yn fyw yn ystod mis Tachwedd.
25 Hydref 2018
Mae S4C wedi cyhoeddi Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg ar gyfer 2017/18
24 Hydref 2018
Mae tîm Garddio a Mwy wedi bod yn gweithio ar brosiect arbennig iawn gyda chymuned leol ardal Trawsfynydd i greu gardd yn Yr Ysgwrn - sef cartref y bardd Hedd Wyn a fu farw yn y Rhyfel Mawr.
16 Hydref 2018
Fe fydd cyfres ddrama wleidyddol sydd wedi diddanu gwylwyr yng Nghymru yn cael ei ddangos ar hyd Ewrop, Israel a De Affrica.
15 Hydref 2018
Bydd y darlledwr o Gymru, S4C yn dathlu blwyddyn o lwyddiant o ran drama a chyd-gynyrchiadau ffeithiol yn MIPCOM eleni.
12 Hydref 2018
Mae S4C wedi penodi Non Griffith fel Comisiynydd Cynorthwyol y sianel.
14 Hydref 2018
Bu'n noson lwyddiannus i S4C yng ngwobrau BAFTA Cymru heno gyda naw o wobrau yn cael eu hennill.
11 Hydref 2018
Mae HANSH, gwasanaeth ar-lein ffurf fer S4C, am roi blas go iawn o newyddiaduriaeth i'w gwylwyr.
22 Hydref 2018
Mae cyfres antur ddychrynllyd i bobl ifanc, Prosiect Z, wedi derbyn enwebiad yng ngwobrau BAFTA Plant 2018.
19 Hydref 2018
Yn ddiweddar, fe wnaeth S4C ddarlledu rownd derfynol Dewis Cymru Junior Eurovision yn Venue Cymru yn Llandudno, noson a ddenodd dyrfa frwd i achlysur yn llawn perfformiadau gwych a chyffro'r bleidlais fyw.
09 Hydref 2018
Mae Cymru wedi dewis! Manw yw enillydd cyfres S4C Chwilio am Seren a hi fydd y gantores ifanc gyntaf o Gymru i gymryd rhan yn y Junior Eurovision ym Melarus ym mis Tachwedd.
04 Hydref 2018
Heddiw, mae BBC Cymru, BBC One ac S4C yn cyhoeddi bod y ddrama hynod lwyddiannus Un Bore Mercher / Keeping Faith wedi ei gomisiynu am ail gyfres sydd bellach mewn cynhyrchiad.
18 Medi 2018
Mae S4C yn gwahodd pobl Sir Gâr i Noson Gwylwyr hanesyddol yn ei phencadlys newydd yng Nghaerfyrddin nos Fercher, 26 Medi.
17 Medi 2018
Heddiw (Dydd Llun 17 Medi 2018) mae S4C yn cyhoeddi'r cynllun gweithredu...
09 Awst 2018
Yn dilyn cyfarfod a gynhaliwyd heddiw (dydd Iau 9 Awst, 2018) yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd...
10 Awst 2018
Bydd S4C a theledu Llydaw yn cyd-gynhyrchu dwy raglen ddogfen eleni am y tro cyntaf erioed.
09 Medi 2018
Cyhoeddodd S4C heddiw eu bod am ddarlledu pob un o gemau Cymru...
10 Medi 2018
Mae S4C wedi llwyddo i gael 31 o enwebiadau BAFTA Cymru eleni wrth i'r rhestr gael ei gyhoeddi ddydd Mercher, 6 Medi.
11 Medi 2018
Mae rhaglen newydd sbon sy'n cyflwyno ymwybyddiaeth ofalgar (mindfulness) i blant...
14 Medi 2018
Yn sgìl penderfyniad S4C i gomisiynu dwy gyfres bellach o "Y Byd yn ei Le" gan ITV Cymru...
11 Medi 2018
Mae S4C wedi cyhoeddi ymrwymiad i ogledd Cymru drwy sicrhau estyniad o 10 mlynedd i les eu swyddfa yng Nghaernarfon.
16 Awst 2018
Mae S4C wedi datgelu'r tîm fydd yn cyflwyno gemau tymor Guinness PRO14...
07 Awst 2018
Mae S4C, BBC ALBA (gyda chyllid gan MG ALBA), TG4 a Chronfa Darlledu Iaith Sgrin Gogledd Iwerddon...