13 Rhagfyr 2019
"Gwaddol Sain ydi y byd pop Cymraeg; does 'na'm dowt am hynna. Nhw oedd y bechgyn ifanc brwdfrydig 'ma efo'r cŵl ffactor oedd wedi denu'r holl grwpiau 'ma i recordio iddyn nhw" meddai'r gantores a'r cyflwynydd Caryl Parry Jones.
10 Rhagfyr 2019
Mewn cyfweliad arbennig ar gyfer Y Byd yn ei Le, gaiff ei ddangos am 9.30 ar nos Fawrth 10 Rhagfyr, bydd Guto Harri yn holi cwestiynau personol i Boris Johnson, gan ofyn, "Be ddigwyddodd i Mr Nice Guy? Ai chi yw'r un person a gafodd ei ethol yn Faer ar Lundain?"
03 Rhagfyr 2019
"Fe wnes i fwynhau bob eiliad!" Dyna oedd sylwadau Erin Mai, y ferch 13 oed o Lanrwst a gynrychiolodd Cymru yn y Junior Eurovision Song Contest heddiw.
02 Rhagfyr 2019
I ddathlu ei gyfraniad allweddol i rygbi yng Nghymru, mae S4C wedi cyflwyno darlun wedi'i gomisiynu'n arbennig i Warren Gatland.
21 Tachwedd 2019
Ar ôl ennill y gyfres deledu boblogaidd Chwilio am Seren Junior Eurovision yn gynharach eleni, mae Erin Mai, 14 oed, ar fin cyrraedd uchafbwynt ei thaith - y Junior Eurovision.
Bydd ffeinal y gystadleuaeth fawr yn cael ei chynnal yn Gliwice, Gwlad Pŵyl ar 24 Tachwedd, gyda chynulleidfa o filiynau ar hyd a lled Ewrop am fod yn tiwnio mewn i wylio'r cystadlu.
15 Tachwedd 2019
Mae cyfle i drigolion Llanrwst a'r dalgylch leisio'u barn ar raglenni a gwasanaethau sianel deledu S4C mewn digwyddiad cyhoeddus fis nesaf.
8 Tachwedd 2019
Ar ôl dathlu ei hanner canmlwyddiant eleni, mae'r gystadleuaeth eiconig Cân i Gymru yn parhau i wneud ei marc ledled Cymru.
07 Tachwedd 2019
Mae S4C wedi llwyddo i fod ymhlith y darlledwyr cyntaf i dderbyn nawdd o'r Young Audiences Content Fund. Bydd y sianel yn derbyn dros £500,000 ar gyfer datblygu cynnwys i blant a phobl ifanc.
05 Tachwedd 2019
Mae S4C wedi arwyddo cytundeb i ddarlledu gemau byw rhanbarthau Cymru yng Nghwpan Her Ewrop y tymor hwn.
15 Hydref 2019
Bydd S4C yn rhannu llwyddiannau diweddar y sianel gyda darlledwyr ledled y byd, drwy lansio'r brand newydd S4C Originals – Dramâu a Fformat Gwrieddiol S4C - yng ngŵyl deledu MIPCOM yn Ffrainc yr wythnos yma.
08 Hydref 2019
Fel rhan o bartneriaeth newydd rhwng S4C a Walter Presents, bydd S4C yn dangos detholiad o ddramâu teledu gorau'r cyfandir, sydd wedi eu dewis gan y curadur drama Eidalaidd, Walter Iuzzolino.
Mae'r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon wedi apwyntio Hugh Hesketh Evans fel Cadeirydd dros dro i S4C.
Mae S4C wedi lansio cynllun prentisiaid newydd sbon ac wedi croesawu tri prentis newydd i weithio o bencadlys y sianel yng Nghanolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin.
24 Medi 2019
Mae Cymru wedi dewis! Erin Mai yw enillydd cyfres S4C Chwilio am Seren a hi fydd yn cynrychioli Cymru ar lwyfan Junior Eurovision ym Gliwice, Gwlad Pŵyl ym mis Tachwedd.
Mae S4C wedi cyhoeddi Adroddiad Blynyddol Safonau'r Gymraeg ar gyfer 2018/19.
23 Medi 2019
Mae materion Brexit bellach tu hwnt i ddwylo'r bobl ar lawr gwlad. Ond mae un bleidlais dros fater Ewropeaidd sydd dal yn nwylo'r bobl… y bleidlais i ddewis seren Cymru ar gyfer Junior Eurovision Song Contest 2019!
18 Medi 2019
Ar ôl tri mis o baratoi ffyrnig, bydd chwaraewyr Cymru yn gobeithio gweld yr holl ymarfer yn dwyn ffrwyth ar ddydd Llun 23 Medi, pan fyddan nhw'n cychwyn eu hymgyrch Cwpan Rygbi'r Byd 2019 yn erbyn Georgia.
Ar drothwy'r gystadleuaeth, cawsom sgwrs gyda phum aelod o dîm cyflwyno Cwpan Rygbi'r Byd S4C i gael eu barn am y gystadleuaeth.
Mae S4C wedi llwyddo i gael 23 o enwebiadau BAFTA Cymru eleni wrth i'r rhestr gael ei gyhoeddi ddydd Iau, 5 Medi.
Mae S4C yr wythnos hon yn lawnsio cynnwys traws blatfform newydd ar gyfer cerddoriaeth a diwylliant cyfoes Cymraeg - Lŵp.
Mae S4C yr wythnos hon yn lawnsio cynnwys traws blatfform newydd ar gyfer cerddoriaeth a diwylliant cyfoes Cymraeg - Lŵp.
Daeth graffiti enwocaf yr iaith Gymraeg yn destun ymgyrch ryngwladol yn gynharach eleni ar ôl i'r neges angerddol 'Cofiwch Dryweryn' ar wal yng Ngheredigion bron a chael ei difetha ar ddau achlysur gwahanol.
Ond, wedi misoedd cythyrblus ac ansicr, datgelir yn y rhaglen arbennig fydd ar S4C yr wythnos hon, Huw Stephens: Cofiwch Dryweryn, bod y wal wedi'i gwerthu i berchennog newydd, gyda'r bwriad o'i gwarchod.
Mewn blwyddyn pan wnaeth mwy na 10 miliwn o bobl wylio S4C drwy'r DU ar ryw adeg mewn cyfnod o 12 mis, dywed Cadeirydd S4C yn ei Adroddiad Blynyddol olaf yn y swydd, bod perfformiad gwasanaethau digidol S4C yn argoeli'n dda am y dyfodol.
Bydd Trystan ac Emma yn helpu cymunedau ledled Cymru gyda phrosiect adnewyddu - a bydd yn rhaid iddynt wneud y cyfan mewn un penwythnos, gyda £5,000 o bunnau yn unig.
04 Gorffennaf 2019
Gyda mwy o bwyslais nag erioed ar y cyfryngau cymdeithasol, mae S4C ac ITV Cymru eleni eto yn cefnogi cynllun hyfforddi newyddiadurwyr i greu deunydd ar gyfer platfform digidol Hansh.
26 Mehefin 2019
Fe fydd rhai o dimau Pêl Rwyd gorau'r byd yn heidio i Gaerdydd i herio tîm cenedlaethol Cymru fis nesaf a bydd modd gwylio dwy gêm yn fyw ar S4C.
10 Mehefin 2019
Yr wythnos hon (11 Mehefin), bydd S4C yn lansio S4C Comedi, platfform gomedi digidol newydd sbon, i hawlio'i le fel yr unig blatfform gomedi digidol yn y Gymraeg.