Wrecsam: Clwb Ni: Cyfres newydd sy'n bwrw golwg ar effaith pryniant Clwb Pêl-droed Wrecsam gan actorion Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney ar y dref a'i phobl.
Dal y Mellt: Bydd drama newydd sy'n llawn bywyd, bwrlwm, emosiwn, dirgelwch a chyffro yn dechrau ar S4C ar nos Sul, 2 Hydref.
Sgwrs Dan y Lloer: Y tro hwn bydd Elin Fflur yn siarad â'r delynores Elinor Bennett.
Pobol y Cwm - Gwyneth: Mae Gwyneth nôl yng Nghwmderi ac mae hi ar ôl waed un o'r trigolion anffodus. Cyfweliad gyda'r actores Llinor ap Gwynedd.
Mas ar y Maes: Mae arlwy Mas ar y Maes yn rhan annatod o gyffro'r Eisteddfod Genedlaethol - dyma gyfle i fwynhau'r wledd ar S4C.
Sgorio: Pwy bynnag 'da chi'n cefnogi, allwch ddilyn pob cam o'r tymor pêl-droed yng Nghymru gyda chyfres newydd o Sgorio.
Gwyliau Cartref: Cyfres newydd sy'n dilyn teuluoedd a grwpiau o ffrindiau wrth iddynt fynd ar wyliau yn eu milltir sgwâr.
Eisteddfod Ceredigion 2022: Y cyffro i gyd ar gael ar S4C, S4C Clic a BBC i Player.
Cymry'r Gemau: Rhaglen ddogfen arbennig sy'n cynnig cyfle unigryw i ddod i nabod pum aelod gwahanol o dîm Cymru, wrth iddyn nhw baratoi i gynrychioli eu gwlad yng Ngemau'r Gymanwlad yn Birmingham.
Y Sioe Frenhinol: Bydd S4C yn darlledu gwasanaeth cynhwysfawr o holl gyffro'r Sioe Frenhinol ar deledu, a thrwy ffrwd fyw ar y we yn Gymraeg a Saesneg ar sianel YouTube Y Sioe S4C a Facebook Y Sioe S4C.
Y Fets: Cŵn Ceredigion sy'n cael y sylw y tro hwn gan gynnwys y Daschunds Bydi ac Eddie sy'n pryderu bob tro mae eu perchnogion yn gadael y tŷ.
DRYCH: Byw gyda MS: Rhaglen ddogfen dirdynol a gonest sy'n dilyn y cyflwynydd teledu cyfarwydd Daf Wyn wrth iddo dderbyn ddiagnosis o Multiple Sclerosis ac yntau ond yn 30 mlwydd oed.
DRYCH: Ti, Fi a'r Babi: Mae bywyd pennaeth gorsaf BBC Radio 1, Aled Haydn Jones, wedi newid yn gyfan gwb dros y deunaw mis ddiwethaf. Bydd cyfle i ddarganfod y datblygiadau diweddaraf mewn rhaglen ddogfen arbennig.
DRYCH: Bois yr Academi: Rhaglen ddogfen sy'n camu mewn i fyd academi pêl droed Abertawe i ddweud stori tri bachgen talentog sydd yn gobeithio bod yn yr un y cant o chwaraewyr academi sydd yn llwyddo i chwarae ar y lefel broffesiynol.
Pobol y Penwythnos: Cyfres newydd sy'n edrych ar y ffyrdd difyr mae pobl yn treulio eu penwythnosau – hobi diddorol, sefydlu busnes neu waith gwirfoddol neu gadwriaethol.
Y Fets: Mae Ystwyth Vets yn Aberystwyth yn agor eu drysau unwaith eto ac yn cynnig cip tu ôl i'r llen ar eu gwaith arbennig gydag anifeiliaid bach a mawr. Cyfres Newydd.
Eisteddfod yr Urdd: Edrych ymlaen at Eisteddfod yr Urdd hir-ddisgwyliedig yn Ninbych.
Y Byd ar Bedwar: Ddeugain mlynedd yn ddiweddarach, bydd Paul Roberts o Lanberis a Ceri Jones o Ddwygyfylchi yn rhannu straeon dirdynnol am golli anwyliaid yn Rhyfel y Falklands.
Y Golau: Alexandra Roach sy'n serennu mewn drama newydd gyffrous gyda Joanna Scanlan, enillydd gwobr Bafta Best Leading Actress 2022 ac Iwan Rheon.
Iaith Ar Daith: Y DJ Katie Owens sy'n mynd ar daith i ddysgu Cymraeg y tro hwn. Bydd ei ffrind sydd hefyd yn DJ - Huw Stephens yn cadw cwmni iddi ac yn gosod sawl her ar hyd y ffordd.
Pobol y Cwm: Alaz: Mae Pobol y Cwm yn tynnu sylw at brofiadau erchyll ffoaduriaid drwy stori Alaz sy'n cael ei chwarae gan actor ifanc Cwrdaidd, Taro Bahar.
Iaith Ar Daith: Pennod llawn hwyl wrth i'r digrifwr Mike Bubbins fynd ar siwrnai fythgofiadwy i ddysgu Cymraeg gyda chymorth gan ei ffrind a chyd-gomedïwr. Elis James.
Teulu'r Castell: Cyfres newydd am fenyw fusnes lleol a'i theulu sydd wedi prynu Castell Llansteffan ger Caerfyrddin - ac mae ganddynt gynlluniau mawr ar gyfer y dyfodol.
Iaith Ar Daith: Mae'r gyfres boblogaidd yn ôl! Y Parchedig Kate Bottley sy'n mynd ar daith byth gofiadwy i ddysgu Cymraeg gyda'r cyflwynydd a'r newyddiadurwr Jason Mohammad yn fentor iddi.
Rybish: Bydd gwylwyr S4C yn gallu mwynhau mwy o Rybish ar y sianel wrth i'r gyfres gomedi boblogaidd ddychwelyd am ail gyfres.
FFIT Cymru: Mae'r gyfres FFIT Cymru yn ôl ac yn llawn syniadau positif ac ysbrydoledig i gynnig i'r genedl.
Gweinidog Iechyd Mewn Pandemig: Rhaglen arbennig sy'n cynnig cip tu ôl i'r llen ar waith Gwenidog Iechyd Cymru Eluned Morgan yn ystod y pandemig.
Dathlu Dewrder: Rhaglen arbennig i ddathlu a dweud diolch wrth sawl grŵp a sawl unigolyn am eu gwaith hynod. Yng nghwmni Elin Fflur ac Owain Tudur Jones.
Y Byd ar Bedwar: Mewn rhaglen arbennig o Y Byd ar Bedwar bydd y newyddiadurwr Iolo ap Dafydd yn teithio i Wlad Pwyl i glywed profiadau rhai o'r miloedd sydd wedi gorfod ffoi o Wcráin yn dilyn ymosodiad Rwsia ar y wlad.
STAD: Cyfres newydd o'r gyfres ddrama sy'n llawn cyffro a hiwmor cymeriadau Maes Menai, stad tai cyngor mwyaf lliwgar y gogledd.