26 Mawrth 2020
Mae gwasanaeth S4C i bobl ifanc Hansh wedi denu un miliwn o sesiynau gwylio mewn un mis ar draws Twitter, Facebook ac YouTube am y tro cyntaf erioed.
25 Mawrth 2020
Mae S4C wedi uno gyda BBC, ITV, Channel 4 a Channel 5 i bwyso ar y Llywodraeth i weithio gyda darlledwyr gwasanaethau cyhoeddus i gefnogi gweithwyr llawrydd sy'n gweithio yn y diwydiant darlledu yn ystod y cyfnod ansicr hwn.
24 Mawrth 2020
Pum seleb, pum mentor a phum rheswm gwahanol dros ddysgu'r Gymraeg - dyna beth sydd wrth galon Iaith ar Daith - cyfres newydd sbon sydd yn dechrau ar S4C ym mis Ebrill.
23 Mawrth 2020
Wrth i S4C addasu ei hamserlen yng nghanol datblygiadau covid-19, mae Owen Evans, Prif Weithredwr y sianel wedi cyhoeddi heddiw y bydd S4C yn darlledu oedfa'r bore, bob bore Sul am 11:00 i'r rhai sy'n methu mynychu'r Capel neu'r Eglwys.
22 Mawrth 2020
Mae S4C wedi comisiynu rhaglen newydd sydd wedi ei hysbrydoli gan dudalen Facebook Côr-ona.
20 Mawrth 2020
Mae S4C wedi cyhoeddi mai Siôn Tootill yw'r myfyriwr ôl-radd sydd wedi ennill Ysgoloriaeth T Glynne Davies ar gyfer 2019-20.
12 Mawrth 2020
Mae S4C wedi derbyn deg enwebiad ar gyfer Gwobrau Gŵyl Cyfryngau Celtaidd 2020.
9 Mawrth 2020
Yn ddiweddar ymwelodd archwilwyr o'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn Llundain â Phencadlys S4C, Canolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin i ddechrau'r archwiliad blynyddol o gyfrifon y sianel.
16 Mawrth 2020
Mae Noson Gwylwyr S4C ar ddydd Mercher, Mawrth 18 wedi cael ei chanslo, ond bydd dal modd i wylwyr holi'r Prif Weithredwr a'r Cyfarwyddwr Cynnwys dros ddigwyddiad Facebook Live.
4 Mawrth 2020
I ddathlu Diwrnod y Llyfr (dydd Iau 5 Mawrth), bydd S4C Clic yn dangos tair ffilm sy'n seiliedig ar addasiadau llyfrau.
3 Mawrth 2020
Cafodd saith record y byd Guinness newydd eu gosod ar draws Gymru wrth i S4C ddathlu Dydd Gŵyl Dewi eleni mewn ffordd unigryw.
29 Chwefror 2020
Y gân Cyn i'r Llenni Gau gan Gruffydd Wyn yw enillydd Cân i Gymru 2020.
26 Chwefror 2020
Mae S4C yn dathlu wrth i'w gwasanaeth ar alw S4C Clic gyrraedd 100,000 o danysgrifwyr mewn ychydig dros chwe mis.
21 Chwefror 2020
Ar nos Lun, 24 Chwefror mewn rhaglen arbennig o Ffermio, bydd cyfle i wylwyr ymuno yn fyw â Meinir Howells yn ei sied ddefaid wrth iddi ofalu am rai cannoedd o ddefaid beichiog yn ystod un o adeg prysuraf y flwyddyn - y tymor wyna.
18 Chwefror 2020
Yn sgil y tywydd garw diweddar, rydym wedi gohirio'r Noson Gwylwyr ym Mhontypridd ar nos Iau 20 Chwefror. Bydd nawr yn cael ei gynnal ar 31 Mawrth 2020.
17 Chwefror 2020
Bydd S4C yn lansio amserlen newydd sbon ar nos Lun 24 Chwefror – eich amserlen chi.
17 Chwefror 2020
Mae hi bron yr amser o'r flwyddyn ble y gall pobl Cymru ddod at ei gilydd i ddathlu diwylliant Cymraeg ac ymfalchïo yn eu Cymreictod. Ydi, mae Cân i Gymru 2020 yn agosáu.
6 Chwefror 2020
Sut beth yw bod yn Ddylanwadwr Cyfryngau Cymdeithasol ? Hansh sy'n datgelu'r cyfan wrth ddilyn Niki Pilkington, y darlunydd a dylanwadwr o Nefyn, wrth iddi fyw bywyd anhygoel yn Los Angeles.
4 Chwefror 2020
Cyn hir bydd hyd yn oed mwy o reswm i edrych ymlaen i'r penwythnos wrth i Heno ddechrau darlledu yn fyw o leoliadau ar draws Cymru ar nos Sadwrn.
3 Chwefror 2020
Mae S4C wedi llwyddo i gael naw o enwebiadau yng Ngwobrau RTS Cymru 2020 wrth i'r rhestr gael ei gyhoeddi ddydd Llun 3 Chwefror.
31 Ionawr 2020
Mae Colin Jackon wedi cael ei enwi fel y trydydd seleb i gymryd rhan yn gyfres newydd sbon ar S4C yng Ngwanwyn 2020 sef Iaith ar Daith.
21 Ionawr 2020
Gyda hyfforddwr newydd a sawl chwaraewr ifanc yng ngharfan Cymru, bydd Chwe Gwlad Guinness 2020 yn un llawn antur, yn ôl cyflwynydd Clwb Rygbi Rhyngwladol, Gareth Rhys Owen.
15 Ionawr 2020
Mae'r gyfres deledu FFIT Cymru yn derbyn ceisiadau gan bobl sydd eisiau cymryd rhan yn y gyfres newydd eleni.
Mae pobl sy'n ymweld â'r gwesty arbennig yma yng nghefn gwlad Cymru gydag un amcan penodol: i gyfarfod rhywun o'u gorffennol.