Os ydych chi adre gyda'r plant ac yn chwilio am gynnwys sy'n diddori ac yn addysgu, gallwn ni yn S4C eich helpu.
Mae nifer fawr o gyfresi teledu Cyw a chynnwys digidol fel apiau a gemau yn cynnig cyfle i blant oed meithrin a chyfnod sylfaen ddysgu wrth chwarae. Dewch i ddysgu yn Ysgol Cyw!
Dyma restr o'r cyfresi dysgu wrth chwarae sydd ar gael ar-alw ar wefan Cyw ac ar S4C Clic.
Dyma ystod o weithgareddau lles a meddwlgarwch Shwshaswyn sy'n cynnwys ymarferion bach gofalgar a chrefftau syml sy'n helpu'r plantos bach i ymlacio a chymryd seibiant.
Mae S4C mewn partneriaeth efo Llywodraeth Cymru, Boom Plant, Canolfan Peniarth a'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi datblygu pecyn addysg i gyd-fynd efo'r gyfres Amser Maith, Maith yn Ôl. Mae'r adnoddau sy'n cyd-fynd efo'r penodau ar S4C Clic ar gael yma ar Ysgol Cyw.
Mae'r pecyn cyfan sydd yn cynnwys adnoddau rhyngweithiol a thaflenni gwaith a gweddill rhaglenni Amser Maith, Maith yn Ôl ar blatfform Hwb Llywodraeth Cymru
Un o'r cyntaf i ddefnyddio'r ap oedd Megan Alaw o Gaerfyrddin, sy'n bum mlwydd oed. "Y peth rwy'n hoffi orau am Antur Cyw yw gwneud geiriau ar drên Jangl a dyfalu beth yw'r llythrennau coll. Rwy' wedi cael nhw i gyd yn gywir hyd yn hyn, ond mae'n mynd yn fwy anodd bob tro felly rwy' am ddal i chwarae. Rwy'n edrych mlaen i ddweud wrth fy ffrindiau amdano pan fydda i nôl yn yr ysgol."
Lle i blant ddysgu, chwarae a chael hwyl. Wy ti'n gallu helpu Cyw i gwblhau'r GEIRIAU yn y ffair? Wyt ti'n gallu CYFRI ar y fferm? Beth am daith ar y tren SILLAFU? Beth am gyfansoddi CERDDORIAETH? Beth am fod yn greadigol gyda LLIWIAU yn yr ardal celf? Neu, wyt ti'n gallu paru'r SIAPIAU'R picnic?
Cer amdani!
Cyfle i arwain eich plentyn trwy fyd llawn hwyl a lliw wrth gyd chwarae a darganfod gyda'ch gilydd. Cynnwys dwyieithog ac yn addas i unrhyw aelwyd.
Dewch i ddysgu gyda Stwnsh! Mae cyfresi adloniant ffeithiol sy'n cyflwyno gwybodaeth ac yn llawn hwyl a sbri.