S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Ffeithiol

  • Gwladfa: Gwilym Bowen Rhys

    Gwladfa: Gwilym Bowen Rhys

    S4C Clic a BBC iPlayer

    Cyfres deithio newydd lle bydd y cerddor Gwilym Bowen Rhys yn ymweld â'r Wladfa ym Mhatagonia er mwyn darganfod mwy am hanes y Cymry ymfudodd yno yn 1865. Bydd Gwilym yn cwrdd â nifer o bobl leol ar hyd a lled y Wladfa wrth iddo ddysgu am yr hanes, yr iaith, y gerddoriaeth a'r diwylliant. Yn y rhaglen hon, mae taith Gwilym yn cychwyn ym Mhorth Madryn, man glanio'r Mimosa yn 1865.

  • Llofruddiaeth y Bwa Croes

    Llofruddiaeth y Bwa Croes

    S4C Clic a BBC iPlayer

    Pennod 1: Ebrill 2019 - mae pensiynwr yn cael ei saethu gyda Bwa Croes ar Ynys Môn. Heb dystion, tystiolaeth fforensig na chwaith cymhelliad clir, a fydd Heddlu Gogledd Cymru yn medru darganfod pwy oedd yn gyfrifol?

    Pennod 2: Mae'r ffisiotherapydd lleol, Terence Whall, wedi ei gyhuddo o lofruddio'r pensiynwr, Gerald Corrigan - a fydd y llys yn ffeindio Whall yn euog? Ac yn fwy pwysig na dim, a fydd atebion ynglŷn a pham cafodd y pensiynwr ei lofruddio gan Fwa Croes?

Ar gael nawr

  • None

    Iolo a Dewi: Y Tad a'r Mab a Zambia

    Cawn hynt a helynt Iolo Williams a'i fab Dewi wrth iddynt drefnu taith saffari gyda'i gilydd ar gyfer grwp o ymwelwyr ym Mharc Cenedlaethol De Luangwa yn Zambia.

  • Cysgu o Gwmpas

    Cysgu o Gwmpas

    Amser i Beti a Huw ddod a'u taith i ben, a lle gwell i wneud hynny nag yng ngwesty'r Albion, Aberteifi. Wedi ei leoli ar lan y Teifi, bydd y ddau yn ymuno a llongwr lleol am fordaith fach, cyn mentro nol i'r aber am noson o chwerthin a pizza.

  • Sgwrs Dan y Lloer - Cyfres 6

    Sgwrs Dan y Lloer - Cyfres 6

    Elin Fflur bydd yn Sgwrsio dan olau'r lloer gyda'r cyn is-bostfeistr, Noel Thomas, fe aeth i'r carchar, a fe gollodd bopeth.

  • Hen Dy Newydd

    Hen Dy Newydd

    Yn y bennod hon, mae ein 3 cynllunydd creadigol sef Gwyn Eiddior, Mandy Watkins a Carwyn Lloyd Jones yn wynebu'r her o adnewyddu 3 ardal mewn cartref i gwpwl ifanc yng Nghaerfyrddin. Ni fydd gan y cwpwl syniad sut hwyl geith y tri a gyda chyllidebau gwahanol fe fydd tipyn o sialens yn eu hwynebu- a fydd ein tîm adnewyddu yn llwyddo i drawsnewid hen dy yn HEN DY NEWYDD'

  • Sain Ffagan Cyfres 2

    Sain Ffagan Cyfres 2

    Mae Sain Ffagan yn datgelu mwy o'i thrysorau a'i straeon. Mae'r garddwyr yn dysgu sut i ddefnyddio'r planhigion maen nhw wedi'u tyfu i liwio gwlân. Cawn gip olwg tu fewn i un o adeiladau prysuraf yr Amgueddfa, y siop losin ac mae'r gwaith adeiladu ar du allan Gwesty'r Vulcan yn dod i ben.

  • Y Ci Perffaith

    Y Ci Perffaith

    Cyfres wedi'i gyflwyno gan Heledd Cynwal. Mae 'na 13.5 miliwn o g¿n ym Mhrydain. Ond sut ma dod o hyd i'r Ci Perffaith' Dan arweiniad yr arbennigwr c¿n Dylan Davies a chadwyn o arbenigwyr a llochesi c¿n, byddwn ni'n helpu 4 teulu sy'n ysu am gi. Bydd y teulu yn cael treulio amser gyda phob ci dan olwg ein camerau cudd o fewn y ty. Ar ôl wythnos o bendroni a thrafod, bydd y teulu'n cael dewis pa gi ma nhw am gadw fel eu¿ Ci Perffaith! Y tro hwn, mae teulu'r Evansiaid yn cael cwmni dau gi - un bac

  • Cymru, Dad a Fi

    Cymru, Dad a Fi

    Cyfres yn dilyn taith tad a mab, Wayne a Connagh Howard, o gwmpas rhai o ynysoedd Cymru. Yn y rhaglen gyntaf hon, bydd y ddau'n mynd ar daith o'u cartref yng Nghaerdydd, i ynys fwya' Cymru, Ynys Môn - gan ymweld â 'Love Island' Cymru, sef Ynys Llanddwyn!

  • Mwy o Ffeithiol

    Mwy o Ffeithiol

    Cliciwch isod i weld mwy o raglenni Ffeithiol S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?